Talybolion
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Cwmwd yng ngogledd-orllewin Môn oedd cwmwd Talybolion (amrywiad : Talebolion). Roedd yn un o ddau gwmwd cantref Cemais, yn gorwedd i'r gorllewin i'r cwmwd arall, Twrcelyn.
Roedd y cwmwd yn cynnwys rhan ogleddol Ynys Gybi (gyda Chaergybi yn ganolfan). Ar dir mawr Môn ffiniai â chwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw, i'r de, ac â chwmwd Twrcelyn i'r dwyrain. Maenor Cemais (Porth Wygyr ger Cemaes heddiw, efallai) oedd safle llys y cwmwd, a oedd yn ogystal yn brif lys i'r cantref.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Cysylltir Talybolion â Pabo Post Prydain, sant o'r 5fed ganrif ac aelod o deulu brenhinol teyrnas Gwynedd. Codwyd eglwys iddo yn Llanbabo yn y 12g, yn ystod teyrnasiad Owain Gwynedd.
Plwyfi[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Llanbadrig ar ymyl y môr
- Llanbadrig - lleoliad Cemais, maenor y cwmwd
- Llanfechell
- Llanrhwydrys
- Llanfair
- Llanrhuddlad
- Llanbabo
- Llanddeusant
- Llanfaethlu
- Llanfwrog
- Llanfachraeth
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]
- A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982). Cefndir.