Llanrhwydrys
Gwedd
Math | plwyf, pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.408°N 4.52°W |
Crefydd/Enwad | Anglicaniaeth |
Esgobaeth | Esgobaeth Bangor |
Plwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Llanrhwydrys. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys ar yr arfordir rhwng Llanfair-yng-Nghornwy a Llanfechell. Mae'n cynnwys pentref a bae Cemlyn.
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Talybolion yng nghantref Cemais. Ystyr yr enw yw 'Eglwys Rhwydrys'. Sant lleol oedd Rhwydrys (ffurf ddiweddar ar yr enw personol cynnar Rhwyddrys.[1] Dywedir ei fod yn fab i un o frenhinoedd Connacht yn Iwerddon, sef 'Rhwydrim' (Cymreigiad); ni wyddys rhagor na hynny amdano.[2]
Saif eglwys y plwyf ger y môr i'r gogledd-orllewin o Gemlyn.