Cerrig llam
Gwedd
Math | pont droed, pont garreg, Rhyd, garden feature |
---|---|
Deunydd | carreg, ashlar |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhes o gerrig dros afon yw cerrig llam (hefyd cerrig sarn).[1] Fel rheol maent yn rhes o gerrig gwastad a osodwyd yn fwriadol yng ngwely'r afon lle mae'r dŵr yn fas a'r llif yn araf er mwyn hwylustod i'w chroesi. Yn aml maent wedi'u gosod mewn rhyd neu gerllaw iddi.
Mae rhai cerrig llam yn hynafol ac yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol cyn i bontydd gael eu dyfeisio. Ond gall cerrig llam fod yn ddiweddarach hefyd. Gosodwyd rhai yn eu lle yn yr Oesoedd Canol a cheir enghraifft yn Wilton Park yn Wiltshire, De-orllewin Lloegr, o gerrig llam yn cael eu gosod ar fframiau pren yn y 19eg ganrif.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol II, tud. 2092.
- ↑ Eric S. Wood, Collins Field Guide to Archaeology in Britain (Collins, 1963), tud. 263.