Neidio i'r cynnwys

Eglwys y Santes Fair, Betws-y-Coed

Oddi ar Wicipedia
Eglwys y Santes Fair, Betws-y-Coed
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1907 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBetws-y-coed Edit this on Wikidata
SirBetws-y-coed Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr21.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0916°N 3.80284°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolyr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Bangor Edit this on Wikidata

Saif Eglwys y Santes Fair yn Neoniaeth Arllechwedd, Esgobaeth Bangor - ym mhentref Betws-y-Coed, Conwy. Eglwys Anglicanaidd yw hi (h.y. yr Eglwys yng Nghymru) ac mae ei drysau ar agor yn wythnosol.[1] Cofrestrwyd yr adeilad gan Cadw fel adeilad rhestredig Gradd II*.[2] Oherwydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, roedd Eglwys Mihangel Sant yn rhy fach a phenderfynwyd codi eglwys newydd, Eglwys y Santes Fair, rhwng 1870 a 1873, yng nghanol y pentref, wrth ochr y brif ffordd. Fe'i cysegrwyd yng Ngorffennaf 1873, a cheir lle i 150 person.[3] ar gost o £5,000 (sy'n gyfwerth â £400,000 heddiw). Cwbwlhawyd y tŵr yn 1907.[2]

Cynlluniwyd yr eglwys gan y pensaeri Paley ac Austin, Swydd Gaerhirfryn cyn 1870 - ac yn dilyn cystadleuaeth i bensaeri. Mae ar batrwm croes, gyda'r tŵr yng nghanol y groes.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]