Llynnau Mymbyr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llyn Mymbyr)
Jump to navigation Jump to search
Llynnau Mymbyr
Llynnau Mymbyr.jpg
Math llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.0981°N 3.9297°W Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Eryri Edit this on Wikidata
Llynnau Mymbyr o'r gogledd gyda'r Wyddfa yn y cefndir
Machlud haul dros Lynnau Mymbyr

Mae Llynnau Mymbyr yn ddau lyn cyfagos ar Nant y Gwryd yn Nyffryn Mymbyr, ychydig i'r gorllewin o bentref Capel Curig yn Eryri, Sir Conwy. Amgylchynir y llynnau gan borfeydd defaid a thir corsiog. Mae lôn yr A4086 yn mynd heibio glannau gogleddol y ddau lyn. I'r de-ddwyrain mae llethrau Moel Siabod yn codi. Mae'r olygfa o'r llynnau o gyfeiriad Capel Curig gyda chribau'r Wyddfa yn y cefndir ymhlith yr harddaf a'r enwocaf yng Nghymru.

Gan fod canolfan gweithgareddau awyr agored Plas y Brenin ar lan un o'r llynnoedd, maent yn boblogaidd ar gyfer gweithgareddau megis canwio.

CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.