Llynnau Mymbyr
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Capel Curig |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.0981°N 3.9297°W |
| Cadwyn fynydd | Eryri |
![]() | |
Mae Llynnau Mymbyr yn ddau lyn cyfagos ar Nant y Gwryd yn Nyffryn Mymbyr, ychydig i'r gorllewin o bentref Capel Curig yn Eryri, Sir Conwy. Amgylchynir y llynnau gan borfeydd defaid a thir corsiog. Mae lôn yr A4086 yn mynd heibio glannau gogleddol y ddau lyn. I'r de-ddwyrain mae llethrau Moel Siabod yn codi. Mae'r olygfa o'r llynnau o gyfeiriad Capel Curig gyda chribau'r Wyddfa yn y cefndir ymhlith yr harddaf a'r enwocaf yng Nghymru.
Gan fod canolfan gweithgareddau awyr agored Plas y Brenin ar lan un o'r llynnoedd, maent yn boblogaidd ar gyfer gweithgareddau megis canwio.
-
Machlud haul dros Lynnau Mymbyr
-
Cyfnos
