Brwydr Agincourt

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Agincourt
Enghraifft o'r canlynolbrwydr, military victories against the odds Edit this on Wikidata
Dyddiad25 Hydref 1415 Edit this on Wikidata
Rhan oy Rhyfel Can Mlynedd Edit this on Wikidata
LleoliadAzincourt Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Paentiad o Frwydr Agincourt gan Syr John Gilbert (1817–1897)
Paentiad o'r 15g o Frwydr Agincourt

Brwydr a ymladdwyd yng ngogledd Ffrainc ar 25 Hydref 1415 rhwng byddin Seisnig dan Harri V, Brenin Lloegr a byddin Ffrengig dan y Cwnstabl Charles d'Albret oedd Brwydr Agincourt. Roedd yn un o frwydrau enwocaf y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr.[1]

Dilynodd y frwydr yr un patrwm a nifer o frwydrau blaenorol yn y rhyfel hwn, megis Brwydr Poitiers (1356). Roedd Harri V wedi dewis safle amddiffynnol, gyda'i ddwy ystlys wedi eu gwarchod. Ymosododd y Ffrancwyr, ond cawsant golledion trwm, yn bennaf oherwydd saethwyr y bwa hir. Lladdwyd nifer fawr o brif uchelwyr Ffrainc.

Roedd colledion y Saeson yn llawer llai. Yn eu plith, roedd un Cymro amlwg, Dafydd Gam, oedd wedi bod yn un o brif wrthwynebwyr Owain Glyndŵr yn ystod ei wrthryfel. Nid ymddengys fod gwir yn y traddodiad iddo gael ei urddo'n farchog ar faes y frwydr cyn iddo farw. Roedd rhai o gyn-gefnogwyr Owain ym myddin Harri V hefyd, gan cynnwys Hywel Coetmor, brawd Rhys Gethin. Roedd cryn nifer o saethwyr y bwa hir yn Gymry, y rhan fwyaf o dde Cymru, allan o gyfanswm o tua 400 o filwyr Cymreig i gyd. Cofnodir i o leiaf un Cymro gael ei ladd yn ymladd ar ochr Ffrainc, ac mae traddodiad fod mab Glyn Dŵr, Maredudd ab Owain Glyndŵr, yn ymladd dros Ffrainc yn y frwydr hon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sumption, Jonathan (2015). The Hundred Years War IV: Cursed Kings (yn Saesneg). Llundain: Faber & Faber. t. 259. ISBN 978-0-571-27454-3.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]