Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021
| Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2022 | ||
|---|---|---|
| ||
| Gwybodaeth gyffredinol | ||
| Gwlad | y Deyrnas Unedig | |
| Awdurdod |
| |
| Gwefan |
| |
Cynhaliwyd y Cyfrifiad yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon ar ddydd Sul 21 Mawrth 2021. Yn yr Alban mae'r cyfrifiad wedi cael ei gohirio i 2022 oherwydd Pandemig COVID-19. Hwn oedd yr 21ain cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig. Trefnwyd y Cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr, gan Gofnodion Gwladol yr Alban yn yr Alban a gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon. Roedd yr awdurdodau eisiau i fwyafrif o bobl gwblhau'r cyfrifiad ar-lein.[1]
Oherwydd argyfwng COVID-19, roedd newidiadau mawr i'r ffordd roedd y cyfrifiad yn cael ei gynnal.[2]
Dyma'r tro cyntaf roedd y cyfrifiad yn cael ei gynnal ar ôl cyflwyno strategaeth "Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr" gan Lywodraeth Cymru yn 2017.[3] Mae pobl yn awyddus iawn i weld faint o bobl sydd yn medru'r iaith.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ynglŷn â'r cyfrifiad". Cyfrifiad 2021. Cyrchwyd 2021-02-13.
- ↑ George Thorpe; Neil Shaw (16 Chwefror 2021). "Huge changes to way the Census will work in 2021". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Chwefror 2021.
- ↑ "Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg". LLYW.CYMRU. Cyrchwyd 2021-03-01.