Bwlch Sychnant
![]() | |
Math | ffordd, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 108.19 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.275°N 3.88°W, 53.27765°N 3.878791°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Bwlch mynydd sy'n gorwedd rhwng Penmaenmawr a Chonwy ar arfordir gogledd Cymru yw Bwlch Sychnant neu Sychnant.
Dydy Sychnant ddim yn arbennig o uchel (tua 500 troedfedd). Cyn agor lôn yr A55 heibio i benrhynoedd syrth y Penmaen-mawr a'r Penmaen-bach rhedai'r brif lôn o gyfeiriad Caer i Gaergybi a Chaernarfon dros y bwlch hwn.
I'r gogledd mae'r Alltwen a'i chaer ac o'r golwg i'r gogledd-ddwyrain mae bryngaer Castell Caer Seion. Mae'r ardal o gwmpas Sychnant yn denu ymwelwyr a cherddwyr trwy'r flwyddyn. Mae Llwybr y Gogledd (Bangor-Prestatyn) yn croesi pen y bwlch.
Gwelir merlod mynydd Cymreig o gwmpas Sychnant yn aml.