Melyd
Gwedd
| Melyd | |
|---|---|
Eglwys Sant Melyd, Gallt Melyd. | |
| Ganwyd | 6 g |
| Man preswyl | Sir Ddinbych |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
| Dydd gŵyl | 9 Mai |
Sant o Gymro oedd Melyd (bl. 6g efallai). Fe'i cysylltir â Sir Ddinbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ychydig iawn a wyddys amdano. Yr unig le sy'n gysylltiedig â fo heddiw yw plwyf a phentref Gallt Melyd yn Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru. Mae eglwys y plwyf yn gysegredig iddo ac yn dyddio o'r Oesoedd Canol, ond cafodd ei hadnewyddu'n sylweddol yn y 19g.[1]
Ger y pentref ceir Ffynnon Felyd. Mae'r hynafiaethydd Edward Lhuyd yn ei nodi yn ei Parochiala.[2]
Cynhelid gwylmabsant Melyd ar 9 Mai.[1]