Mwrog

Oddi ar Wicipedia
Mwrog
Eglwys Llanfwrog, Rhuthun
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl6 Ionawr, 15 Ionawr Edit this on Wikidata

Sant Cymreig oedd Mwrog (bl. 6g efallai). Ychydig iawn a wyddys amdano ac mae ei enw ei hun yn anghyffredin ac efallai o darddiad Gwyddeleg.

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Cysylltir y sant â dau le yng ngogledd Cymru, sef Llanfwrog, Ynys Môn a Llanfwrog, Sir Ddinbych. Yn y Llanfwrog yn Sir Ddinbych, sy'n gorwedd ger Rhuthun yn rhan uchaf Dyffryn Clwyd, mae'r eglwys yn gysegredig i Fwrog a'r Forwyn Fair. Mae'r llan o gwmpas yr eglwys o ffurf gron, sy'n awgrymu sefydliad cynnar. Gerllaw ceir Mynwent Mwrog, cae lle codwyd yr eglwys neu fyfyrgell wreiddiol, yn ôl traddodiad, ond does dim olion i'w gweld yno heddiw.[1]

Gwyliau: 6 Ionawr (Llanfwrog, Ynys Môn), 15/16 Ionawr (Llanfwrog, Sir Ddinbych).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tud. 409-410.