Neidio i'r cynnwys

Bwlch Pen Barras

Oddi ar Wicipedia
Bwlch Pen Barras
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.137°N 3.251°W Edit this on Wikidata
Map
Y ffordd sy'n dringo llethrau Moel Fenlli i Fwlch Pen Barras

Lleolir Bwlch Pen Barras ym Mryniau Clwyd, gogledd-ddwyrain Cymru. Mae'r bwlch 360 metr yn gorwedd rhwng bryniau Moel Fenlli (i'r de) a Moel Famau (i'r gogledd-ddwyrain).

Croesir y bwlch gan ffordd gul. Hon oedd yr hen lôn hanesyddol rhwng Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych a'r Wyddgrug yn Sir y Fflint cyn i'r ffordd dyrpeg (yr A494 bellach) gael ei adeiladau dros Fwlch y Parc yn y 18fed ganrif. Mae'n cysylltu Llanbedr Dyffryn Clwyd a Tafarn-y-Gelyn.

Cyfeiria'r hynafiaethydd Thomas Pennant at ryw "Fwlch Agricola" yn gorwedd rhwng Moel Fenlli a Moel Eithinen, gan honni mai dyma oedd llwybr Agricola ar ei ymgyrch yn erbyn yr Ordoficiaid.[1]

Mae'r ffordd o'r dwyrain yn esgyn yn syth heb fod yn rhy serth; fodd bynnag, mae ffordd fwy cul gyda llethrau serth ar ochr orllewinol y bwlch, lle mae'r ffordd yn disgyn 260 metr o fewn 2.4 km gyda llethr 25% bron.

Hamdden

[golygu | golygu cod]

Mae’r bwlch yn boblogaidd fel man cychwyn er mwyn dringo Moel Famau. Mae yna hefyd ddau faes parcio sy'n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru: un ar gopa'r bwlch a maes parcio arall milltir i lawr yr ochr ddwyreiniol i gyfeiriad Tafarn-y-Gelyn. Mae llwybrau yn dringo drwy'r goedwig o'r ddau faes parcio i gopa Moel Famau.

Mae'r ddringfa serth ar y ffordd orllewinol o Lanbedr-Dyffryn-Clwyd yn golygu bod y bwlch yn boblogaidd gyda seiclwyr a beicwyr modur. Mae cylchgrawn Cycling Weekly wedi rhoi sylw i'r bwlch ac yn ei alw'n 'Killer Climb', ac mae hefyd wedi'i restru yn y Dave Lloyd Mega cyclosportive. Mi wnaeth Nigel Blackwell o'r band Half Man Half Biscuit sôn am y bwlch mewn cyfweliad yn 2012 pan ddywedodd o: “Y gamp fwyaf i mi yw creu sefyllfa i fy hun lle gallaf godi yn y bore a phenderfynu mynd i daclo Bwlch Pen Barras ar y beic.".[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Frank Price Jones, Crwydro Dwyrain Dinbych (Llyfrau'r Dryw, 1961), tud. 134.
  2. ↑ TheVonPipMusicalExpress (2012-03-08). "The VPME - "Risk It For A Biscuit?" - Half Man Half Biscuit Interview". www.thevpme.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-12-07.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato