Afon Cain
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Powys |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.7706°N 3.2837°W |
![]() | |

Afon yng ngogledd Powys sy'n llifo i mewn i Afon Efyrnwy yw Afon Cain. Mae hi'n tarddu ychydig i'r gorllewin o Lanfyllin, lle mae Nant Ffyllon a Nant Alan yn ymuno i'w ffurfio. Wedi llifo trwy Lanfyllin, mae hi'n parhau tua'r dwyrain, ochr yn ochr a'r briffordd A490, yna'r troi tua'r gogledd-ddwyrain heibio i Lanfechain, wedyn tua'r dwyrain eto i ymuno ag Efyrnwy ger Llansanffraid-ym-Mechain.
