A490

Oddi ar Wicipedia
A490
Enghraifft o'r canlynolffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthSwydd Amwythig Edit this on Wikidata
Hyd22 milltir Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Priffordd ym Mhowys yw'r A490, sy'n arwain o ychydig i'r gorllewin o Lanfyllin i'r Ystog.

Dechreua'r ffordd o ychydig i'r gorllewin o Lanfyllin, lle mae'r B4391 a'r B4393 yn ymuno. Mae'n arwain tua'r dwyrain yn dilyn Afon Cain am dipyn, cyn troi tua'r de-ddwyrain. Mae'n cyd-redeg a'r briffordd A495 am ryw hanner milltir, cyn ymwahanu a throi tua'r de i groesi Afon Efyrnwy. Wrth fynd heibio'r Trallwng, mae'n cyd-redeg a'r A458 cyn ymwahanu eto a mynd ymlaen tua'r de-ddwyrain i groesi Afon Hafren.

Mae'n croesi i Swydd Amwythig yn Lloegr am ychydig. gan groesi Afon Camlad fymryn ar ôl croesi'r ffîn, cyn dychwelyd i Gymru ger yr Ystog, lle mae'n ymuno a'r briffordd A489.

Lleoedd ar y ffordd[golygu | golygu cod]