Neidio i'r cynnwys

Dan Isaac Davies

Oddi ar Wicipedia
Dan Isaac Davies
Ganwyd24 Ionawr 1839 Edit this on Wikidata
Llanymddyfri Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mai 1887 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Brydeinig Llanymddyfri
  • ysgol hyfforddi Borough Road Edit this on Wikidata
Galwedigaethathro Edit this on Wikidata

Addysgwr gwladgarol ac ymgyrchydd dros y Gymraeg oedd Dan Isaac Davies (24 Ionawr 183928 Mai 1887). Roedd yn un o sylfaenwyr y mudiad cyntaf o'r enw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ymgyrchydd brwd dros addysg ddwyieithog.

Brodor o blwyf Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin oedd Dan Isaac Davies. Ar ôl cael ei benodi yn brifathro Ysgol y Comin (Ysgol Stryd y Felin yn ddiweddarach) yn Aberdâr yn 1858, dechreuodd ar y gwaith o roi mwy o le ac urddas i'r iaith Gymraeg yn yr ysgol. Roedd yn annog y staff i siarad Cymraeg yn y dosbarth a hynny'n gwbl groes i'r drefn yng Nghymru. Yn 1868 cafodd ei apwyntio'n Arolygydd Ysgolion a rhoddodd hyn y cyfle iddo ehangu ei genhadaeth er gwaethaf gwrthwynebiad gan y sefydliad addysg. Mewn canlyniad goddefwyd rhywfaint o ddefnydd o'r Gymraeg mewn addysg elfennol pan dderbynwyd ei argymhellion gan y Ddirprwyaeth Frenhinol ar Addysg Elfennol yng Nghymru yn 1885.[1]

Bu'n un o sefydlwyr y mudiaid iaith gwladgarol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1885, gyda Beriah Gwynfe Evans, Isambard Owen, Henry Richard ("Yr Apostl Heddwch") ac eraill.[2] Bu farw yn 1887.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Dan Isaac Davies, Tair Miliwn o Gymry Dwyieithog (1885)
  • J. Elwyn Hughes, Arloeswr Dwyieithedd (1984)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.