Sant ap Ceredig
Jump to navigation
Jump to search
Sant ap Ceredig | |
---|---|
Ganwyd |
469 ![]() |
Man preswyl |
Teyrnas Ceredigion ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
brenin neu frenhines, arweinydd crefyddol ![]() |
Tad |
Ceredig ap Cunedda ![]() |
Partner |
Non ![]() |
Plant |
Dewi Sant ![]() |
Tad i Dewi Sant, yn ôl y traddodiad, ac un o dywysogion Ceredigion oedd Sant ap Ceredig neu Sandde. Mae'n bosib taw un o feibion iau Ceredig ap Cunedda ydoedd. Honna Rhygyfarch ap Sulien yn ei hanes Buchedd Dewi i Sant ymweld ag ardal Dyfed tua'r flwyddyn 500 ac yno treisio'r lleiain Non, gan roi iddi ei mab Dewi. Gwaith Rhygyfarch, a ysgrifennwyd dros 500 mlynedd wedi i Ddewi farw, yw'r unig ffynhonnell am dras nawddsant Cymru. Mae'r hanesydd Gerald Morgan yn amau'r stori yn ei lyfr Ar Drywydd Dewi Sant.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Ai Cardi oedd Dewi Sant?", Golwg360 (23 Chwefror 2016). Adalwyd ar 18 Medi 2016.