Meugan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ni dylid cymysu ef gyda Meugan, santes o'r diwedd y 5g

Credir fod Meugan (hefyd Mawgan; Lladin: Maucannus) yn ŵr Cristnogol a oedd yn byw rywdro rhwng y 6ed a'r 7g. Cyfeiriodd Iolo Morgannwg at Meugan ap Goronw a astudiodd gyda Beuno yng Nghlynnog Fawr. Yn ôl eraill roedd yn ddisgybl i Sant Briog.[1] Dywedir a'i fod fel Cristoffer yn nawddsant teithwyr.[2] Mae ei ddydd Gŵyl ar 24 Ebrill a 25 Medi.[3]

Credir iddo fod yn bennaeth ar gymuned Cristnogol, ond ni wyddys ym mhle y mae hwnnw: Mae ei eglwysi'n cynnwys Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd, sef mam-eglwys tref Rhuthun, Sir Ddinbych, a Chapel Meugan a chwalwyd er mwyn codi Castell Biwmares ar y safle.[4] Ger ffermdy Pistyll Meugan ger Cemais bu capel a dinistrwyd yn 1592 dan orchymyn awdurdodau eglwysig i atal pererindota ofergoelus a llenwyd y ffynnon i rhwystro'r werin rhag gwneud offrymau yno.

Ni wyddom yn union pa bryd y trigodd, dywed Sieffre o Fynwy ei fod yn gyfoeswr i Fyrddin a Gwrtheyrn, ac iddo fod yn Esgob ar 'Fudi' (o bosibl Woodchester heddiw) ond mae'n ymddangos fod sant arall oedd yn cael ei chyfeirio ato.

Rhestr Wicidata:


# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Eglwys Sant Meugan
Eglwys Sant Meugan, Llanrhud, Rhuthun, Sir Ddinbych 45.jpg
53°06′36″N 3°17′10″W / 53.1101°N 3.28616°W / 53.1101; -3.28616 Sir Ddinbych Q17737112
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.earlybritishkingdoms.com; adalwyd 2015
  2. The Church of Saint Meugan, Llanrhydd, Ruthin gan Williams, Rheithor y Plwyf, 1988
  3. Lives of the British Saints
  4. The Cambrian traveller's guide, and pocket companion gan G. Nicholson; adalwyd 2015
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: