Cristoffer

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Murlun o Sant Cristoffer yn Eglwys Sant Saeran, Llanynys, yn dyddio'n ôl i'r 15fed ganrif

Sant Cristnogol oedd Cristoffer neu Cristoffr[1] (o'r Groeg Χριστόφορος, Christóphoros, "Un a gludodd Crist"). Ef yw nawddsant teithwyr, a dethlir ei ŵyl ar 25 Gorffennaf mewn Eglwysi Gorllewinol ac ar 9 Mai yn Eglwysi Uniongred y Dwyrain.[2]

Does braidd dim yn wybyddys am fywyd y Cristoffer hanesyddol, ond yn ôl traddodiad cafodd ei ferthyru yn Asia Leiaf yn y 3g. Bu nifer o chwedlau amdano, ac ymddangosodd y rhain yn eu ffurf terfynol yn Legenda Aurea, casgliad Jacobus de Voragine o fucheddau'r seintiau, yn y 13g. Yn ôl y chwedl roedd Cristoffer yn gawr o Ganaan a wasanaethodd y Diafol ar un adeg, ond ar ôl darganfod bod ei feistr yn ofni'r Iesu penderfynodd wasanaethu Mab y Dyn, a oedd yn fwy pwerus, yn ei le. Yna fe ddysgodd am Gristnogaeth oddi wrth feudwy, ag awgrymodd iddo y gallai blesio Crist drwy ddefnyddio ei nerth i gario teithwyr ar ei gefn ar draws afon beryglus. Un tro daeth plentyn i lan yr afon a oedd yn eithriadol o drwm, gan mai Crist oedd y plentyn, a chariai bwysau'r byd ar ei ysgwyddau. Dywedodd wrth Gristoffer i blannu ei wialen yn y ddaear, a blodeuodd hon y bore drannoeth, yn dystiolaeth bod yr hyn a ddywedodd y plentyn yn wir.[3]

Roedd Cristoffer yn sant poblogaidd yn Ewrop yr oesoedd canol, ac mae peintiadau ohono'n gyffredin yn eglwysi'r cyfnod. Gan amlaf mae'r rhain yn wynebu prif ddrws yr eglwys, oherwydd y gred na fyddai unrhyw un a welai ddelwedd o'r sant yn marw y diwrnod hwnnw.[3] Mae'r enghraifft fwyaf o'r fath lun yng Nghymru i'w weld yn Eglwys Sant Saeran yn Llanynys, Sir Ddinbych. Mae enghraifft arall yn Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr a cheir tystiolaeth am furluniau pellach ym Mhriordy Penmon, Môn, Eglwys Sant Cyngar, yr Hob, Sir y Fflint,[4] Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont, Morgannwg,[5] ac Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd.

Roedd cwlt Sant Cristoffer yn un o'r ofergoelion a ddirmygwyd adeg y Diwygiad Protestannaidd, ond yn fwy diweddar bu adfywiad yn ei boblogrwydd yn sgil twf trafnidiaeth mewn ceir ac awyrennau. Er gwaethaf hyn, peidiodd cwlt swyddogol y sant yn yr Eglwys Gatholig ym 1969 oherwydd diffyg seiliau cadarn i'r chwedl.[3] Adeiladwyd eglwys Anglicanaidd wedi'i gysegru i Sant Cristoffer yn Bulwark, maesdref o Gas-gwent, yn yr 20g,[6]; nid yw'n ymddangos fod rhagor o eglwysi wedi'u cysegru iddo yng Nghymru.

Yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel y dywedwyd 'Cariwr Crist' yw ystyr yr enw. Ceir sawl sillafiad Cymraeg dros y canrifoedd gan gynnwys:

      Sain Cristor sy 'n y croesty
A droes ei fraich dros Huw fry,
Dwylaw Bawl yn dal ei ben
Drwy donnau, Pedr a Dwynwen.

(Moliant i Huw Lewys ap Llywelyn o Brysaeddfed pan fu bron â boddi gan Guto'r Glyn.)[9]

Canodd yr un bardd, Guto'r Glyn, gywydd hefyd gan ddefnyddio sillafiad gwahanol:

Sain Cristoffr a fu’n offrwm
Yn dwyn Crist megis dyn crwm.

Mae'r gynghanedd yn mynnu defnyddio'r sillafiad Cristor yn yr enghraifft gyntaf a Christoffr yn yr ail ac mae'n amlwg felly bod y ddwy ffurf yn cael eu defnyddio yn yr Oesoedd Canol.

Ym myd natur, ceir: llysiau Cristoffyr (neu Cristoffys), sef Pulicaria dysenterica.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur yr Academi, "Christopher"
  2. Cross, F. L.; Livingstone, E. A., eds. (1997). The Oxford Dictionary of the Christian Church. Rhydychen ac Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. p. 105. 
  3. 3.0 3.1 3.2 Farmer, David (2004). The Oxford Dictionary of Saints. Rhydychen ac Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. pp. 105–6. 
  4. 4.0 4.1 Lord, Peter (2003). Gweledigaeth yr Oesoedd Canol. Diwylliant Gweledol Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. pp. 213–4, n. 172. 
  5. Gordon, Mari, ed. (2009). Achub Eglwys Sant Teilo: Ailgodi Adeilad Canoloesol. Caerdydd: Llyfrau Amgueddfa Cymru. p. 83. 
  6. (Saesneg) St. Christopher – Parish of Chepstow. Yr Eglwys yng Nghymru. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2015.
  7. Huws, Sara; Nash, Gerallt D (2008). Eglwys Sant Teilo. Caerdydd: Llyfrau Amgueddfa Cymru. p. 10. 
  8. (Saesneg) The Donne Triptych. Yr Oriel Genedlaethol. Adalwyd ar 23 Gorffennaf 2015.
  9. Gwefan Guto'r Glyn.net;] adalwyd 24 Gorffennaf 2015
  10. Geiriadur Prifysgol Cymru; GPC Ar lein. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2014. Adalwyd 24 Gorffennaf 2015