Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eglwys yr Holl Saint
Gresford All Saints.jpg
Math Eglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13G Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Wrecsam Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.088°N 2.97724°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd i Gŵyl (yr) Hollsaint Edit this on Wikidata

Eglwys o'r 13C, gyda'i glychau'n un o Saith Rhyfeddod Cymru ydyw Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd. Cyfeiriodd dogfen hynafol, erbyn hyn ar goll, at yr eglwys, gan ddweud bod Trahaearn ap Ithel ap Eunydd a'i bump brawd wedi sefydlu'r eglwys ac wedi rhoi'r tir ar ei gyfer. Ychwanegwyd ystlys, ymestynwyd y gangell ac ychwanegwyd claddgell yn 14C.

Gresffordd01LB.jpg
Gresffordd02LB.jpg

Dymwchwelwyd yr hen eglwys yn 15C, ac adeiladwyd yr eglwys bresennol. Cadwyd rhannau'n unig o'r waliau gorllewinol a dwyreiniol. Adeiladwyd yr eglwys gyda thywodfaen o ardal Cefn. Tu mewn yr eglwys mae corffddelw, Madog ap Llywelyn ap Gruffudd, yn fwy na thebyg. Hefyd, mae cerflun hynafol o Atropos ar hen allor Rhufeinig[1], cerflun o Syr David Hanmer (tad yng nghyfraith i Owain Glyn Dŵr) a llechen ar gof Goronwy ap Iorwerth. Yn ymyl y drws gogleddol, mae cofeb i'r 266 o fechgyn lleol a laddwyd yn nhrychineb Gresffordd[2]

Yn ôl hen rigwm, mae clychau'r eglwys yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]