Gŵyl (yr) Hollsaint

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Yr Holl Saint
Gŵyl (yr) Hollsaint mewn mynwent yn  Gniezno, Pwlad Pwyl – mae blodau a chanhwyllau yn cael eu gosod i anrhydeddu perthnasau (2017)


Gŵyl Gristnogol sy'n cael ei dathlu i anrhydeddu yr holl saint, hysbys ac anhysbys, yw Gŵyl (yr) Hollsaint (neu Gŵyl (yr) Holl Saint). [1][2] Mewn Cristnogaeth Orllewinol, mae'n cael ei ddathlu ar Dachwedd 1 gan yr Eglwys Gatholig, y Cymuned Anglicanaidd, yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Lutheraidd, yr Eglwys Ddiwygiedig, ac eglwysi Protestannaidd eraill. Mae'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol ac Eglwysi Catholig y Dwyrain a'r Eglwysi Lutheraidd Bysantaidd yn ei ddathlu ar y Sul cyntaf ar ol y Pentecost.[3] Mae Eglwysi'r Tri Cyngor Caldea ac eglwysi Catholig Dwyreinol yn dathlu Gŵyl (yr) Hollsaint ar y dydd Gwener cyntaf ar ol Pasg.[4]

Mae dathlu Gŵyl (yr) Hollsaint yn tarddu o'r gred bod cyswllt grymus rhwng y rhai sydd yn y nefoedd (yr "Eglwys Fuddugoliaethus") a'r byw (yr "Eglwys Filwriaethus"). YN ol diwinyddiaeth Gatholig, mae'r diwrnod yn coffau pob un sydd wedi cael y Weledigaeth Wynfydedig yn y Nefoedd. Yn ol diwinyddiaeth Fethodistaidd, mae Gŵyl (yr) Hollsaint  yn achlysur i roi diolch i Dduw am fywydau a marwolaethau ei saint, yr enwog a'r anhysbys.[5] Felly, mae unigolion trwy'r Eglwys Gyffredinol yn cael eu hanrhydeddu, yn cynnwys yr Apostol Paul, Awstin o Hippo a John Wesley, yn ogystal ag unigolion sydd wedi arwain at ffydd yr unigolyn yn Iesu, fel mam-gu neu gyfaill, er enghraifft.

Yn Ynysoedd Prydain, mae'n hysbys bod eglwysi yn dathlu Gŵyl (yr) Hollsaint ar 1 Tachwedd ar ddechrau'r 8g i gyd-fynd neu gymryd lle yr ŵyl Geltaidd Samhain.[6][7][8][9] Mae James Frazer yn awgrymu bod 1 Tachwedd wedi'i ddewis am mai hwnnw oedd dyddiad gŵyl Geltaidd y meirw (Samhain). Mae Ronald Hutton, fodd bynnag, yn nodi bod yr eglwys yn Iwerddon yn y 7g a'r 8g, yn ol Óengus of Tallaght (bu farw tua 824), yn dathlu Gŵyl (yr) Hollsaint ar 20 Ebrill. Mae'n awgrymu mai syniad Germanig yn hytrach na Cheltaidd oedd y dyddiad.

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Shakespearian Glossary". http://langs.eserver.org/shakespeare-glossary.txt.
  2. The Shakespeare Name Dictionary. Routledge. 2004. ISBN 978-1-13587571-8. Adalwyd 30 October 2014.  Check date values in: |access-date= (help)Check date values in: |access-date= (help)
  3. Sidhu, Salatiel; Baldovin, John Francis (5 February 2013). Holidays and Rituals of Jews and Christians (in English). p. 193. ISBN 9781481711401. Lutheran and Orthodox Churches who do not call themselves Roman Catholic Churches have maintained the traditions of the Roman Catholic Church, still celebrate this Day. Even the Protestant Churches like the United Methodist Church all celebrate this day as the All Souls Day and call it All Saints day.  Check date values in: |date= (help)Check date values in: |date= (help) CS1 maint: Unrecognized language (link)
  4. "Syro Malabar Liturgical Calendar 2016". http://www.syromalabarchurch.in/pdf/Panchangam%20English2016.pdf.
  5. Iovino, Joe (28 October 2015). "All Saints Day: A holy day John Wesley loved" (yn English). The United Methodist Church. http://www.umc.org/what-we-believe/all-saints-day-a-holy-day-john-wesley-loved.
  6. Hutton, p.364
  7. Pseudo-Bede, Homiliae subdititiae; John Hennig, 'The Meaning of All the Saints', Mediaeval Studies 10 (1948), 147–161.
  8. "All Saints Day", The Oxford Dictionary of the Christian Church, 3rd edition, ed. E. A. Livingstone (Oxford: Oxford University Press, 1997), 41–42; The New Catholic Encyclopedia, eo.loc.
  9. Hennig, John (1946). "A Feast of All the Saints of Europe". Speculum 21 (1): 49–66. JSTOR 2856837.