Gresffordd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gresffordd
The west face of the tower of All Saints, Gresford - geograph.org.uk - 1688354.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Wrecsam Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.087°N 2.966°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000895 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ353549 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Lesley Griffiths (Llafur)
AS/au Ian Lucas (Llafur)

Pentref a chymuned yw Gresffordd (Saesneg: Gresford) ym mwrdeistref sirol Wrecsam.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Lesley Griffiths (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Ian Lucas (Llafur).[1][2]

Trychineb Glofa Gresffordd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 22 Medi, 1934, colledd 266 o bobl eu bywydau mewn trychineb yn y lofa leol. Roedd y danchwa hon yn un o drychinebau pyllau glo mwyaf erchyll yn hanes gwledydd Prydain, os nad Ewrop. Digwyddodd y drychineb yn ystod y sifft nos, pan oedd tua 500 o lowyr yn gweithio dan y ddaear, llawer ohonynt yn gweithio sifftiau dwbl. Hyd heddiw, does neb yn gwybod beth achosodd y ffrwydrad nwy a laddodd cymaint ohonynt. Bu'n rhaid cau'r lofa lle digwyddodd y drychineb am gryn amser rhag ofn y digwyddai ffrwydriadau eraill ac o ganlyniad bu raid gadael 254 o gyrff yn y pwll.

Eglwys yr Holl Saint[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae clychau Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Gresffordd (pob oed) (5,010)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gresffordd) (506)
  
10.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gresffordd) (2719)
  
54.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Gresffordd) (771)
  
36.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]