Holt

Oddi ar Wicipedia
Holt
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Dyfrdwy Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRhedynfre Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0754°N 2.8896°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000897 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ409539 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLesley Griffiths (Llafur)
AS/auSarah Atherton (Ceidwadwyr)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Holt[1][2] ("Yr Holt" yn 1566).[3] Saif ar Afon Dyfrdwy. Mae Caerdydd 180 milltir i ffwrdd o Holt ac mae Llundain tua 190.

Ceir croes farchnad ganoloesol yng nghanol y pentref a chofrestrwyd Eglwys Sant Chad yn Gradd I gan Cadw ers 17 Gorffennaf 1996.[4]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lesley Griffiths (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Sarah Atherton (Ceidwadwyr).[5][6]

Hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Bovium[golygu | golygu cod]

Prif: Bovium

Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd Holt yn safle o bwys. Lleolwyd gweithfa lleng caer Rufeinig Deva (Caer) yn Holt (Bovium), lle cynhyrchid crochenwaith a theiliau at ddefnydd miwrol a sifil. Gorwedd y safel ar lan orllewinol afon Dyfrdwy ger y pentref. O bryd i'w gilydd mae darnau o grochenwaith yn cael eu darganfod o hyd wrth droi'r caeau.

Castell Holt[golygu | golygu cod]

Adfeilion Castell Holt

Codwyd castell ar gynllun pentagonaidd gyda thŵr ar bob cornel gan yr arglwydd lleol John de Warenne, arglwydd Brwmffild a Iâl, a dderbyniodd ei dir gan Edward I o Loegr ar ôl 1282. Roedd Castell Holt yn adfail erbyn y 17g; y cwbl a erys heddiw yw rhannau isel muriau'r gorthwr mewnol, porth a grisiau. Cafodd gweddill yr adfeilion ei symud ar gychod i lawr afon Dyfrdwy ar ôl gwarchae yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr a'u defnyddio at adeiladau Neuadd Eaton.

Eglwys Sant Chad[golygu | golygu cod]

Mae rhannau o Eglwys Sant Chad yn dyddio i'r 15g a'r 17g a chofrestwryd hi yn Gradd I gan Cadw ers 17 Gorffennaf 1996. Ceir motiffau ar y fedyddfaen sy'n cynrychioli Harri Tudur a theulu'r Stanleys a wnaed tua 1483.

Pont Rhedynfre[golygu | golygu cod]

Pont Farndon o Holt.

Yr enw Cymraeg ar y bont yw 'Pont Rhedynfre' neu 'Bont Holt', sef y pentref ar ochr Cymru o'r afon (hefyd: Pont Farndon)[7] Yr enw a ddefnyddir yn Saesneg arni yw 'Farndon Bridge' (cyfeiriad grid SJ412544) sy'n dod o enw'r pentref sydd yr ochr arall i'r bont, yn Sir Gaer, ac felly'n cysylltu Cymru a Lloegr, dros Afon Dyfrdwy. Mae'r bont yn dyddio i tua 1339 ac fe'i codwyd gan fyneich o Abaty Sant Werburgh, Caer. Ceir chwedl leol i ddau o feibion Madog ap Gruffudd of Dinas Brân, Llangollen foddi yma ger y bont, a bod eu sgrechiadau yn dal i'w clywed ar adegau.[8]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[9][10][11][12]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Holt (pob oed) (1,521)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Holt) (124)
  
8.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Holt) (708)
  
46.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Holt) (226)
  
34.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%
Eglwys Bresbyteraidd Holt

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
  3. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 196
  4. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 15 Medi 2017.
  5. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  6. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  7. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 3 Medi 2017.
  8. Holland, Richard (30 Gorffennaf 2009). "BBC - North East Wales - Wrexham's Bridge of Screams". BBC. http://news.bbc.co.uk/local/northeastwales/hi/people_and_places/history/newsid_8176000/8176472.stm. Adalwyd 24 Awst 2014.
  9. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  11. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  12. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]