Eglwys Sant Chad, Holt
Gwedd
| Math | eglwys |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Holt |
| Sir | Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 15.7 metr |
| Cyfesurynnau | 53.0809°N 2.87913°W |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig Seisnig |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
| Cysegrwyd i | Chad |
| Manylion | |
| Esgobaeth | Esgobaeth Llanelwy |
Eglwys ac adeilad rhestredig Gradd I yn Holt, Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yw Eglwys Sant Chad.[1] Mae'r plwyf yn rhan o Esgobaeth Llanelwy.
Mae'n debyg bod yr eglwys yn dyddio i'r 1280au pan setlwyd tref Holt gan y teulu Warren. Fodd bynnag, ceir cyfeiriad cyntaf at yr eglwys mewn dogfen o 1379. Ailfodelwyd ac estynnwyd yr eglwys ar ddiwedd y 15g o dan nawdd Syr William Stanley. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr cafodd ei ddifrodi pan oedd lluoedd Seneddol yn byw ynddo; mae marciau bwled i'w gweld o hyd yn y waliau a'r pileri ym mhen gorllewinol yr eglwys. Yn 1732 adnewyddwyd yr eglwys; roedd y gwaith hwn yn cynnwys dinistrio lofft y grog a'r sgriniau. Bu adferiad mawr ym 1871–1873.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "St Chad's Church, Holt", Gwefan Coflein; adalwyd 6 Mawrth 2020
- ↑ "Wrexham Churches Survey: Church of St Chad, Holt" Archifwyd 2020-08-12 yn y Peiriant Wayback, Gwefan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys; adalwyd 6 Mawrth 2020
