William Stanley (Brwydr Bosworth)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Stanley
Ganwyd c. 1435 Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Chwefror 1495 Edit this on Wikidata
Achos: pendoriad Edit this on Wikidata
Tower Hill Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaeth milwr Edit this on Wikidata
Tad Thomas Stanley, 1st Baron Stanley Edit this on Wikidata
Arfau Syr William Stanley, KG
Castell Holt, cartref William a'i deulu, fel ag yr oedd yn 1495.

Milwr ac uchelwr Seisnig oedd Syr William Stanley KG (c. 1435[1]16 Chwefror 1495) a brawd iau Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby. Ymladdodd mewn sawl brwydr yn Rhyfel y Rhosynnau. Yn 1483 fe'i gwnaed yn Brif Ustus Gogledd Cymru ac wedi coroni Richard II, brenin Lloegr trosglwyddwyd rhagor o dir iddo yng Nghymru.[2] Er iddo fod yn allweddol ym muddugoliaeth Harri Tudur ym Mrwydr Maes Bosworth fe'i dienyddiwyd ddeg mlynedd yn ddiweddarach am deyrnfradwriaeth.

Fe'i ganed yn Lytham St Annes, Swydd Gaerhirfryn, yn fab i Thomas Stanley, barwn cyntaf Stanley. Trigodd yn Holt ger Wrecsam gyda'i briod Joan, merch John Beaumont. Tua 1471, priododd yr ail dro, i Elizabeth Hopton, merch Thomas Hopton a chawsant un ferch, Jane Stanley.[3]

Newid ei gôt ym Mrwydr Maes Bosworth[golygu | golygu cod y dudalen]

Iorcydd oedd Stanley am rai blynyddoedd a chydnabyddwyd ef yn strategaethwr milwrol da. Ymladdodd ym Mrwydr Tewkesbury yn 1471, ac ef a ddaliodd y Frenhines Margaret o Anjou, arweinydd y Lancastriaid ac fe'i gwnaed yn Farchog Banneret gan y brenin.

Bu'n driw i Edward IV a'i frawd Richard III ar ei ôl. Ond yn 1485, newidiodd ei liwiau, gan ochri gyda Harri Tudur ac ymgyrch y Lancastriaid. Mae'n fwyaf enwog am ei ran ym Mrwydr Bosworth, pan lwyddodd Harri Tudur i orchfygu'r Iorcwyr a chipio Coron Lloegr. Fel diolch, gwnaed ef yn Arglwydd Siambrlen.

Roedd Richard wedi'i amau ef a'i frawd iau Thomas ers tro, ac ofnodd y byddai'n deyrngar i Harri Tudur, a gwireddwyd hyn. Yn haf 1485 mynnodd Richard III fod Thomas yn danfon ei fab (George Lord Strange) ato fel gwystl, a gwnaeth hynny. Yn ôl cerdd Gymraeg o'r cyfnod hwn, cymerodd y brenin gwystl arall: nai William Stanley (ar ochr ei wraig) sef William Gruffudd a wnaed yn Siambarlen Gwynedd yn 1843.[4] Pe bai Thomas neu William wedi ochri gyda Harri'n agored, byddai'r ddau wystl wedi'u dienyddio. Cadw'n niwtral wnaeth y Stanleys, felly, tan y funud olaf.

Torri ei ben[golygu | golygu cod y dudalen]

Fodd bynnag, yn 1495 fe'i cyhuddwyd am gefnogi Perkin Warbeck i ddisodli Harri Tudur, a chytunodd iddo wneud hynny. Plediodd yn euog gan y credodd y byddai Harri Tudur yn maddau iddo.[5] Ond gosodwyd ef fel esiampl i eraill ac o fewn dyddiau torrwyd ei ben fel cosb.

Roedd Richard III yng Ngogledd Lloegr pan glywodd fod Harri Tudur wedi glanio ym Mhenfro a galwodd am gymorth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. ODNB
  2. "William Stanley – A Yorkist". Cyrchwyd 23 July 2010.
  3. "Thepeerage.com". Cyrchwyd 23 July 2010.
  4. Bosworth - The Birth of the Tudors gan Chris Skidmore; t. 250; Phoenix Press; 2013.
  5. Seaacome, John. The History of the House of Stanley. p. 55. Cyrchwyd 2011-12-04.