Pont Rhedynfre
Math | pont fwa, pont garreg, pont ffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1339 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Rhedynfre, Holt |
Sir | Holt, Rhedynfre |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 6.3 metr |
Cyfesurynnau | 53.0834°N 2.8798°W |
Cod OS | SJ4117354412 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |
Deunydd | carreg |
Dynodwr Cadw | DE024 |
Mae Pont Rhedynfre (Saesneg: Farndon Bridge) yn strwythur Gradd 1 sy'n croesi Afon Dyfrdwy ac sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae'r ochr sydd yng Nghymru ym mhentref Holt a'r ochr yn Lloegr ym mhentref Rhedynfre, Swydd Gaer (cyfeiriad grid SJ412544). Cofrestrwyd y bont yn Radd 1 ar 1 Mawrth 1967 yn y National Heritage List for England (Rhif Cofrestru: 1279428) ac mae hefyd yn 'Heneb Rhestredig (Ancient Monument).[1] Daeth y tollborth yma i ben yn 1866. Yn ôl traddodiad bu yma frwydr waedlyd yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Gwnaed gwaith cynnal a chadw sylweddol yn y 1990au cynnar ac ar yr un pryd cafwyd archwiliad archaeolegol.[2]
Codi'r bont
[golygu | golygu cod]Codwyd y bont yn 1345[1] gan fynachod Abaty Sant Werburgh, Caer. Yn wreiddiol roedd gan y bont ddeg bwa, gyda thŵr amddiffynnol ar y pumed, ond cafodd ei ddymchwel yn 1770 a chollwyd dau fwa ar ochr Cymru o'r bont.[3] Mae pump o'r bwau yn y dŵr. Fe'i gwnaed o garreg calchfaen, coch, gyda dim ond lle i un cerbyd ar y tro a cheir system oleuadau traffig i reoli llif y cerbydau.
Tywysogion Cymreig
[golygu | golygu cod]Yn ôl traddodiad, boddwyd dau Dywysog Cymreig yn yr afon, meibion Madog ap Gruffudd, a chred rhai fod eu hysbrydion yn dal yno a'u sgrechfeydd i'w clywed heddiw.[4]
Ar farwolaeth Madog, dywedir i'w fechgyn gael eu rhoi yng ngofal John, iarll Warren a Roger Mortimer; cynlluniodd y ddau i ladd y plant er mwyn etifeddu eu cyfoeth. Ar eu taith o Gaer i Langollen honir i'r ddau oedolyn daflu'r bechgyn i'r dŵr a hithau'n aeaf rhewllyd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 historicengland.org.uk; adalwyd 4 Mai 2017.
- ↑ Royden, Mike, "Farndon-Holt Bridge", Farndon Local History (Mike Royden), http://www.roydenhistory.co.uk/farndon/buildings/bridge/bridge.htm, adalwyd 29 Mawrth 2008
- ↑ Ward, S. S, "A Survey of Holt-Farndon Medieval Bridge", Cheshire Past (Chester Archaeological Service): pp. 14–15, http://www.roydenhistory.co.uk/farndon/buildings/bridge/cheshirepast1.jpg, adalwyd 29 Mawrth 2008
- ↑ Holland, Richard (30 Gorffennaf 2009). "BBC - North East Wales - Wrexham's Bridge of Screams". BBC. http://news.bbc.co.uk/local/northeastwales/hi/people_and_places/history/newsid_8176000/8176472.stm. Adalwyd 4 Mai 2017.