Owrtyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Owrtyn
Overton-on-Dee - Owrtyn - geograph.org.uk - 1843843.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Wrecsam Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.969°N 2.935°W Edit this on Wikidata
Cod OS SJ372417 Edit this on Wikidata
Cod post LL13 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Ken Skates (Llafur)
AS/au Susan Elan Jones (Llafur)

Mae Owrtyn (Saesneg: Overton-on-Dee) yn bentref a chymuned ar lan Afon Dyfrdwy ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Saif ger cyffordd y priffyrdd A528 a'r A539. Saif 7 milltir (11 km) o dref Wrecsam a 22 milltir (35 km) o Gaer a'r Amwythig.

Dywedir fod y casgliad o saith ywen sy'n tyfu ym mynwent Eglwys y Santes Fair yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Mae'r eglwys ei hun yn dyddio i'r tua'r 12g, ond mae'r coed yw rhwng 1500 a 2000 o flynyddoedd oed; oherwydd hyn, mae'n debygol fod yma eglwys Geltaidd cynharach yn y lleoliad hwn.

Mae’n debyg bod enw'r pentref yn dod o'r hen Saesneg Ovretone, yn golygo 'tref uwch' neu 'ucheldre'. Saif ar esgair uwchben Afon Dyfrdwy.

Defnyddir tywodfaen coch leol ar gyfer llawer o'r adeiladau, er bod yma hefyd friciau o farl teracota o Riwabon neu Gefn Mawr. Er defnyddiwyd tywodfaen wrth adeiladu’r eglwys, mae briciau’n domineiddio tai’r pentref. Defnyddir llechu neu deils cochion ar toeau. Oedd llawer o’r tai teras a bythynnod lled-wahanedig ar Ffordd Wrecsam a Ffordd Salop yn fythynod gweithwyr y stadau mawrion, Bryn y Pys a Gwernhaylod. Perchnogion Poethlyn, enillydd ras y Grand National, oedd y teulu Peel o Fryn y Pys. Adeiladwyd neuadd y pentref ym 1926. Drws nesaf yw’r Ystafelloedd Darllen a Coco, adeilawyd gan Edmund Peel, yn disodlu bwthyn a gweithdy dymchwelwyd yn 1890. Defnyddiwyd yr adeilad cynharach i werthu papurau newydd a lluniaeth ac ar gyfer adloniant[1].

Tai teras y pentref

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Susan Elan Jones (Llafur).[2][3]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Arferai marchnad fod yn rhan ogleddol y stryd fawr yn yr Oesoedd Canol. Credir bod pentref bach ar y safle, pentref a reolid gan fynachlog Bangor-is-y-coed. Dinistrwyd y fynachlog gan Aethelfrith, brenin Northumbria yn 616OC a daeth y pentref o dan ddylanwad Mersia. Rhoddwyd y pentref i Robert Fitzhugh, cefnogwr i'r brenin Wiliam ar ôl 1066. Ym 1130, daeth Owrtyn yn rhan o Bowys Fadog. Credir adeiladwyd castell gan Madog ap Maredudd ar lan afon Dyfrdwy ger y pentref. Crewyd Owrtyn yn fwrdeistref gan y brenin Edward I ym 1278, a sefydlwyd marchnad ym 1279. Daeth y pentref yn fwrdeistref rhydd ym 1292. Sonir fod y Cymry, dan arweiniad Madog ap Llywelyn, yn 1294–1295, wedi cyrchu yma i ymosod ar Edward I. Adeiladwyd safleoedd ‘burgage’ ar y stryd fawr, tai gyda stondinau o’u blaen i werthu cynnyrch ar y stryd, sydd yn rheswm dros led y stryd fawr. Daeth Owain Glyn Dŵr trwy Owrtyn, yn ysbeilio a dinistrio ym 1403–1404; araf oedd adfywiad y pentref.

Adeiladwyd ‘The Brow’ yn yr 1800au cynnar. Roedd y tŷ’n gartref i Edward a Marianne Parker. Roedd Marianne yn chwaer i Charles Darwin, a dreuliodd rhan sylweddol o'i blentyndod yn Owrtyn. Mae map y degwm ym 1838 yn dangos 8 tafarndy yn y pentref, yn cynnwys Y Ceffyl Gwyn, Bryn y Pys, y Bowling Green, Cross Keys, Blue Bell a’r Aradr. Roedd 2 gapel methodistiaid hefyd. Tyfodd y pentref yn gyflym; cynhaliwyd marchnadoedd bob dydd Sadwrn a ffeiriau bob 3 mis. Adeiladwyd neuadd farchnad ar y stryd fawr yn ystod y 19eg ganrif. Agorwyd rheilffordd rhwng Wrecsam ac Ellesmere ym 1895 gan Reilffordd y Cambrian gyda gorsaf yn Lightwood Green, milltir a hanner i’r dwyrain. Caewyd y lein ym 1962 a chodwyd y cledrau. Mae stad diwydiannol ar y safle erbyn hyn. Adeiladwyd Tŷ Coffa ar Ffordd Wrecsam ym 1905 er cof Edmund Peel o Fryn y Pys. Yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif, adeiladwyd sawl stad tai i’r gogledd, dwyrain a de’r pentref. Dymchwelwyd Plas Owrtyn,ar gornel Stryd Fawr a Stryd yr Helyg, er mwyn adeiladu stad tai Sundorne. Cwblhawyd meddygfa a fferyllfa yn 2006 ar y Stryd Fawr. [4]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Owrtyn (pob oed) (1,382)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Owrtyn) (118)
  
8.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Owrtyn) (697)
  
50.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Owrtyn) (202)
  
34.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Llifogydd ar ddolydd Owrtyn

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cynllun assessu a rheoli ardal cadwriaeth Owrtyn
  2. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Cynllun assessu a rheoli ardal cadwriaeth Owrtyn
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]