Poethlyn

Oddi ar Wicipedia

Ceffyl rasio oedd Poethlyn. Enillodd o'r Grand National yn Aintree ar 28 Mawrth 1919, yn gwisgo lliwiau Mrs Hugh Peel o Fryn y Pys, Owrtyn. Y joci oedd Ernest Piggott, taid Lester Piggott. Roedd Poethlyn wedi ennill Grand National answyddogol yn Gatwick ym 1918, eto gyda Ernest Piggott. Roedd o'n ffefryn erbyn 1919, gyda’r ods 11/4, yr ods lleiaf hyd yn hyn ar unrhyw enillydd y ras. Cariodd o 12 stôn a hanner, y mwyaf erioed gan enillydd.

Ganwyd Poethlyn ym 1910 ym Mryn y Pys. Rhoddwyd y ceffyl i was stabl, Mr Howard. Gwerthwyd Poethlyn am £5 i Reg Parry, tafarnwr y Llew Du yn Ellesmere, ac wedyn am £7 i Mr W Davenport, o Fferm Eglwyswen, Alkington, lle arhosodd y ceffyl am 4 blynedd. Gwerthwyd y ceffyl yn ôl i Mrs Peel am £50 ac eog. Hyfforddwyd Poethlyn gan George Goswell ac wedyn gan Harry ‘Scratcher’ Escott. Claddwyd Poethlyn ym Mharc Bryn y Pys.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan wrexham-history". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2018-11-28.