Llanarmon Dyffryn Ceiriog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gweler hefyd Ceiriog (gwahaniaethu).
Cyfesurynnau: 52°53′10″N 3°14′57″W / 52.886209°N 3.24928°W / 52.886209; -3.24928
Llanarmon Dyffryn Ceiriog
Llanarmon dc.jpg
Dyffryn Ceiriog o'r gogledd
Llanarmon Dyffryn Ceiriog is located in Cymru
Llanarmon Dyffryn Ceiriog

 Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn: Cymru
Cyfeirnod grid yr AO SJ159328
Sir Wrecsam
Sir seremonïol Clwyd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost LLANGOLLEN
Rhanbarth cod post LL20
Cod deialu 01691
Heddlu
Tân
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU De Clwyd
Cynulliad Cymru De Clwyd (etholaeth Cynulliad)
Rhestr llefydd: y DU • Cymru •
Eglwys Sant Garmon
Dwy ywen ger drws yr eglwys: yr un ar y chwith yn fenywaidd a'r llall yn wrywaidd.

Pentref yn Sir Wrecsam ydy Llanarmon Dyffryn Ceiriog, ar lan Afon Ceiriog, ar ddiwedd y ffordd B4500, pum milltir (8 km) i'r de-orllewin o Lyn Ceiriog a deg milltir (16 km) i'r gogledd-ddwyrain o Groesoswallt yn Etholaeth Cynulliad De Clwyd, ac yn Etholaeth Seneddol De Clwyd.

Saif dwy ywen nodedig ychydig fetrau o ddrws Eglwys Sant Garmon, sy'n enghreifftiau prin o bâr o yw; yn 1998 mesurwyd o gwmpas gwaelod y coed ac roedd yr ywen ar y chwith (wrth edrych ar yr eglwys) yn 25 troedfedd a'i phartner gwrywaidd ar y dde dros yn 25 troedfedd a hanner.[1]

Daearyddiaeth a gweinyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Hanes Dinesig[golygu | golygu cod y dudalen]

O ganol yr 16g tan 1974, llywodraethwyd Llanarmon Dyffryn Ceiriog gan sir weinyddol Dinbych. O 1895 tan 1935, roedd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o ardal wledig Llansilin, a gyfunwyd yn 1935 gyda ardal wledig Y Waun i greu ardal wledig Y Waun. Arhosodd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o ardal gwledig Y Waun o 1935 tan 1974.

Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a cafodd Llanarmon Dyffryn Ceiriog ei gynnwys o fewn ardal Glyndŵr yn sir newydd Clwyd. Newidwyd y trefn eto yn 1996, pan gafwyd wared o Glwyd ac Ardal Glyn Dŵr, daeth Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn rhan o awdurdod unedol Wrecsam, fel yma mae hi heddiw fyth.

Cynyrchiolaeth gwleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweinyddir Llanarmon Dyffryn Ceiriog o fewn Bwrdeistref sirol Wrecsam, awdurdod unedol a grewyd yn 1996. Mae Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn etholaeth Dyffryn Ceiriog, ac mae genddi Gynghorwr annibynol.

Ers 1999, mae Llanarmon Dyffryn Ceiriog wedi cael ei chynrychioli yn Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Karen Sinclair, Aelod Seneddol De Clwyd y Blaid Lafur.

Ers 1987, cynrychiolwyd Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn Senedd y Deyrnas Unedig gan Martyn Jones, Aelod Seneddol De Clwyd y Blaid Lafur.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed y bardd nodweddiadol, John Ceiriog Hughes yn fferm Pen-y-Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog yn 1832, a treuliodd ei blentyndod yno.

  1. Gwefan www.ancient-yew.org; adalwyd 26 Hydref 2014