Susan Elan Jones

Oddi ar Wicipedia
Susan Elan Jones AS
Susan Elan Jones


Cyfnod yn y swydd
6 Mai 2010 – 6 Tachwedd 2019
Rhagflaenydd Martyn Jones
Olynydd Simon Baynes

Geni 1 Mehefin 1968(1968-06-01)
Rhosllannerchrugog
Plaid wleidyddol Llafur

Gwleidydd Llafur yw Susan Elan Jones AS (ganwyd 1 Mehefin 1968). Cafodd ei hethol fel Aelod Seneddol De Clwyd yn Etholiadau San Steffan 2010, yn dilyn ymddeoliad Martyn Jones o'r sedd cyn yr etholiad.[1]. Collodd y sedd yn etholiad 2019 i'r Ceidwadwr Simon Baynes.

Daw Susan Elan Jones o Rosllannerchrugog yn wreiddiol, ac mae'n byw ar hyn o bryd ym Mhentre Bychan gerllaw. Astudiodd ym Mhrifysgol Bryste ac ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu'n gweithio fel athrawes Saesneg yn Siapan am gyfnod ar ôl graddio, ac yna bu'n gweithio i elusennau am bymtheg mlynedd cyn cael ei hethol yn Aelod Seneddol.

Bu'n Ysgrifennydd Seneddol i Harriet Harman AS. Roedd yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig ac yn weithgar mewn grwpiau trawsbleidiol ar banelu coed, hen reilffyrdd, a dyfrffyrdd.

Mae'n siaradwraig Gymraeg ac yn ymgyrchydd dros y Gymraeg; yn ystod ei haraith gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin rhoddodd beth o hanes yr iaith i'w chyd-aelodau gan grybwyll y Welsh Not. Wrth ymhyfrydu yn y ffaith ei bod wedi gallu tyngu llw yn Gymraeg wrth ymuno â'r Senedd, talodd deyrnged i rai (gan gynnwys ei phennaeth pan oedd yn yr ysgol, Mrs Mair Miles Thomas) sydd wedi ymladd er mwyn sicrhau hawliau sifil i siaradwyr Cymraeg.[2]

Mae wedi bod yn gefnogol i frwydr Cymdeithas yr Iaith i ddiogelu dyfodol S4C yn sgil bwriadau Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig i roi'r sianel yng ngofal y BBC. Mae hefyd wedi galw ar ei phlaid ei hun i fod yn fwy parod i frwydro dros y Gymraeg fel y mae wedi brwydro dros achosion eraill ar hyd y blynyddoedd, gan ddadlau mai'r Blaid Lafur yw'r blaid naturiol i weithio dros achosion radical o'r fath.[3]

Mae hi hefyd wedi dadlau dros gyhoeddi treuliau Aelodau Seneddol yn llawn. Caiff ei threuliau hi eu cyhoeddi ar ei gwefan yn fisol.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]