Jacobus de Voragine

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jacobus da Varagine
PalazzoTrinci010.jpg
Jacobus da Varagine gyda'r Legenda Aurea yn ei law, ffresgo gan Ottaviano Nelli yn Foligno, yr Eidal
Ganwyd ~1230
Varagine (Varazze), Liguria
Bu farw 13 neu 16 Gorff. 1298 neu 1299
Genova
Mawrygwyd yn Yr Eglwys Babyddol
Gwynfydiad 1816, Genova by Pab Pïws VII

Croniclydd Eidaleg ac archesgob Genova oedd Jacobus de Voragine (c. 1228Gorffennaf 1298).[1] Fe'i ganwyd yn Varagine, yr Eidal. Mae'n fwyaf adnabyddus fel casglwr Legenda Aurea ('y Chwedlau Euraidd'), un o weithiau crefyddol mwyaf poblogaidd yr Oesoedd Canol Diweddar.

Fe'i cyfieithwyd i'r Gatalaneg yn y 13g gyda'r argrraffiad cyntaf yn cael ei gyhoeddi yn Barcelona yn 1494.

Sermones de Sanctis gan Jacobus de Voragine (Fenis, 1497). Mae'r dudalen deitl yn dangos yr awdur fel pregethwr.

Bron mor boblogaidd oedd ei gasgliad o bregethau a alwyd hefyd yn "Aurei" a chafwyd sawl argraffiad yn y 15g o'r Pregethau hyn a gwaith o'r enw Mariale a argraffwyd yn Fenis yn 1497 ac yna ym Mharis yn 1503.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Legenda sanctorum (= Legenda Aurea)
  • Chronicon januense
  • Sermones de sanctis per circulum anni feliciter
  • Laudes Beatae Mariae Virginis

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "'Varagine' yn y cofnodion cynnar, a olygai 'o Varazze'" (Christopher Stace, tr., The Golden Legend: selections (Penguin) 1998; t x).