Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cyfesurynnau: 53°06′35″N 3°17′10″W / 53.109809°N 3.286089°W / 53.109809; -3.286089

Eglwys Sant Meugan
Eglwys Sant Meugan, Llanrhud, Rhuthun, Sir Ddinbych 45.jpg
Math Eglwys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Meugan Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13G Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.1101°N 3.28616°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd i Meugan Edit this on Wikidata

Eglwys Sant Meugan (neu ar lafar: Eglwys y Thelwalls) yw mam-eglwys Rhuthun, Plwyf Llanrhudd, Sir Ddinbych sy'n adeilad rhestredig Gradd I (Cyfeirnod grid:NGR SJ140577). Un siambr yw hi, ac mae'n dyddio i'r 13g gydag ychwanegiadau yn y 15g ac felly tipyn hŷn nag Eglwys Sant Pedr yng nghanol y dref.[1] Roedd eglwys yma o’r 7g ond mae’r adeilad presennol yn dyddio o’r 15g yn unig. Saif ym mhlwyf a chymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd. Yn y Llyfrgell Genedlaethol, ceir gweithredoedd tir dyddiedig Hydref 1322 sy'n dangos iddynt gael eu rhoi i William de Thelwalle gan John de Grey o Wilton ("in campo de Llanrhuth"). Gwnaed hyn gyda chaniatâd Syr Hugh, Rheithor Llanrhudd, a benodwyd yn Warden cyntaf. Un o deulu Seisnig y 'de Greys' oedd y perchennog, teulu a fu'n allweddol ym mrwydr Lloegr i goncro Cymru. Mae'r amrywiaeth cerrig yn waliau'r eglwys, heddiw'n ymddangos yn frithwaith tameidiog o wyn a choch, yn dwyllodrus felly, gan mai'r arferiad (tan yn ddiweddar) oedd gwyngalchu'r waliau tu allan, fel y gwelir yng nghofnodion taliadau'r eglwys.

Mae’r gofadail i John Thelwall (a fu farw yn 1586) a’i wraig Jane (m. 1585) o ‘Bathafarn House’ gerllaw i'w weld ar y mur ac un arall i'w mab Ambrose. Yma hefyd, ym mynwent yr eglwys, y saif Croes Sant Meugan, Croes Geltaidd o'r Oesoedd Canol. Ceir y cofnod cynta o'r eglwys yn Llyfr Treth Lincoln, yn 1254. Bu'r eglwys o dan gochl Eglwys Gadeiriol Bangor tan 1859 pan gafodd ei drosglwyddo i ofalaeth Eglwys Gadeiriol Llanelwy.

Mae ei chlochdy ar y talcen gorllewinol yn perthyn i'r Oesoedd Canol. Calchfaen golau yw gwneuthuriad y waliau, gyda pheth tywodfaen coch yma ac acw. Y tywodfaen coch hwn a roddodd yr enw i'r pentrefan: yr hen enw am y lliw coch yw 'rhudd'. Erbyn hyn, defnyddir y ffurf 'Llanrhydd' gan fod yma ystyr ehangach - hy yn 'rhydd' o'r fam-eglwys. Yr un 'rhudd' sydd yn y gair 'Rhuthun' (Rhudd + din) sydd tua hanner cilometr i'r gogledd-orllewin. Mae'r to'n perthyn i'r 15g - gyda 7 o drawstiau derw bwaog a cheir sgrîn pren i rannu'r gangell o'r un cyfnod, sy'n debyg iawn i sgriniau o Bowys. Gellir ei chymharu hefyd gydag eglwysi eraill yn yr ardal: Eglwys Derwen, Clocaenog, Llanfair Dyffryn Clwyd ac Eglwys Llanelidan.

Mae'r allor Jacobeiadd derw hefyd yn anghyffredin gan fod y coesau wedi'u naddu'n gain ar ffurf pedwar llew yn dal tarian. Yn 1721 codwyd galeri'r cerddorion yng nghefn yr eglwys a cheir cofnod cerfiedig o'r dyddiad yn y pren. Hyd at 1880 canhwyllau oedd yn goleuo'r capel ac yna lampiau efydd, sydd bellach ar goll.

Ceir dau ddrws i'r eglwys, y drws a ddefnyddir heddiw yw'r un yn ochr y gorllewin (cefn yr eglwys) on yr hen ddrws yw'r un yn yr ochr deheuol. O amgylch y drws hwn ceir ysgrifen Cymraeg, ond sydd bellach wedi'i wyngalchu. Y traddodiad yma yw fod yr elor, mewn cynhebrwng, yn dod i fewn drwy'r drws gorllewinol ac yn mynd allan drwy ddrws y de.

Sant Meugan[golygu | golygu cod y dudalen]

Dywed Wade Evans fod Sant Meugan yn debygol o fod yn ddisgybl i Fartin, am fod Ffair Feugan yn cael ei chynnal ar y Llun ar ôl Gwyn Fartin. Dywedir ei fod yn seryddwr ac yn feddyg i Wrtheyrn, a'i fod fel Cristoffr yn nawddsant teithwyr.[2] Mae ei ddydd Gŵyl ar y 25ain Medi.

Cofebau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir sawl cofeb i deulu'r Thelwalls ar fur y gogledd, sy'n dyddio i'r 16eg a'r 17g gan gynnwys:

Cofeb Delwedd Person Manylion
1 Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd, Rhuthun, Sir Ddinbych 2015 27.JPG John a Jane Thelwall m. 1576 Cofeb garreg. Bu'r ddau'n byw ym Mharc Bathafarn, Rhuthun. O dan y gofeb iddynt ceir cerfiadau hynod o'u plant - 10 mab a 4 merch.
1 Eglwys Sant Meugan, Llanrhud, Rhuthun, Sir Ddinbych 22.JPG fel uchod Llun manwl o John a Jane yn wynebu'i gilydd. Maent yn penlinio ar ddesg gweddi.
1 Sir Eubule Thelwall 1562-1630 Principal of Jesus College Oxford TIF.tif Un o'r meibion (y 5ed): Syr Eubule Thelwall Prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen
2 Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd, Rhuthun, Sir Ddinbych 2015 15.JPG John Thelwall (m. 1576) Testun: Here lyeth the body of John thelwall of Bathavarn in this Parish and of Janes his wife, daughter of Thomas Griffiths of Pant y Llongdy in the county of Flint who lived together as man and wife 34 years... and died the 29th of October 1586 , 58 year of his age. Jane died on 12 December 1585... 60 years of her age, leaving behind them ten sons and foure daughters.
3 Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd, Rhuthun, Sir Ddinbych 2015 13.JPG Ambrose Thelawall (1570-1653) Ef oedd 9fed mab John a Jane Thelwall (uchod). Cofeb garreg. Gweithiodd i Syr Francis Bacon cyn mynd yn geidwad y gwisgoedd i Iago I , Siarl I , a Siarl II. Claddwyd ef yn y fynwent hon.
4 Eglwys Sant Meugan, Llanrhud, Rhuthun, Sir Ddinbych 14.JPG Ambrose Thelawall (1570-1653) Testun: Here lyes the body of Ambrose Thelwall, 9th son to John Thelwall... of Bathafarn Park. Born 7th of 10R 1571. He was Yeoman of the Robes to King James... He retired to the place of his birth... He died 5th August 1653.[3]
5 Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd, Rhuthun, Sir Ddinbych 2015 18.JPG John Thelwall m. 1686 Byw ym Mhlas Coch, Rhuthun. Testun ar gofeb marmor: Here lies the body of John `Thelwall, the 5th owner of Bathafarn Park. He first married Dame Elizabeth Reli?... and then married Anne eldest daughter of Robert Davies... by whom he had numerous issue... (He) died at his house Plascoch September 28th and burried October 7th 1686 aged 77.

Yn ôl Bywgrafiadur Cymreig Arlein: "O linach John Thelwall mab Eubule ap Simon ap Dafydd ap John Thelwall Hen , a'i wraig, Margaret , merch Ieuan ap Dio ap Meredydd o Langar , y disgynnodd cangen Parc Bathafarn o'r teulu. Mab iddynt hwy oedd John Thelwall (1528 - 1586)"

Y tu allan
Y tu fewn

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Coflein; adalwyd 2015
  2. The Church of Saint Meugan, Llanrhydd, Ruthin gan Williams, Rheithor y Plwyf, 1988
  3. Nodyn: mae'r dyddiad ar wefan y Bywgraffiadur yn nodi iddo farw yn y flwyddyn 1652.