Eglwys Sant Pedr, Rhuthun

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Sant Pedr
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1310 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhuthun Edit this on Wikidata
SirRhuthun Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr71.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1154°N 3.3108°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iSant Pedr Edit this on Wikidata
Manylion

Eglwys Anglicanaidd yn nhref farchnad Rhuthun, Sir Ddinbych ydy Eglwys Sant Pedr, Rhuthun (Saesneg: Collegiate and Parochial Church of St Peter). Fe'i lleolir yng nghalon y dref. Saif o fewn esgobaeth Llanelwy.[1] Mae'n dyddio'n ôl i 1310.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ceir tystiolaeth fod Cristnogaeth wedi cyrraedd Dyffryn Clwyd erbyn y 7g pan sefydlwyd sawl eglwys neu gell - llawer ohonynt ar union leoliad yr eglwysi Celtaidd cynharach. Un o'r cyntaf yn yr ardal oedd Sant Meugan a sefydlodd gell yn yr ardal a elwir heddiw'n 'Llanrhudd', a hynny cyn Rhuthun ei hun, a dyma mewn gwirionedd gnewyllun yr achos a sefydlwyd yn ddiweddarach yn nhref Rhuthun. Sonir amdano yn Taxatio Norwich yn 1254 ble ceir cofnod o iawndal yn cael ei dalu am y difrod milwrol a wnaed gan Coron Lloegr i'r eglwys.[2]

Erbyn 1282, gwelir cychwyn y symudiad o drosglwyddo pwer yr eglwys o Lanrhudd i Ruthun; trosglwyddodd Edward I holl eglwysi Cantref Dyffryn Clwyd i'w ffrind Reginald de Grey, Barwn Wilton, ac ar ei farwolaeth trosglwyddwyd ei eiddo i'w fab John.

Yn 1310 sefydlodd John fan addoli o'r enw Capella St. Petri i ddinasyddion Saesnig y fwrdeistref newydd. Sefydlodd hefyd goleg collegiate, sef eglwys gyda chymuned o offeiriaid; yn yr achos yma, cyflogwyd saith.

Yn 1589-90 prynnwyd yr eglwys gan y Deon Gabriel Goodman, bachgen a anwyd yn y dref, ynghŷd a'r coleg a'r tiroedd; ailsefydlodd Wardeiniaeth gydag Ysbyty Crist a'r elusendai i 12 o bobl. Oherwydd Goodman, daeth Rhuthun yn lle o bwys, o ran Cristnogaeth eglwysig ac o ran addysg.[3]

Eglwys Sant Pedr: y gangell

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan plwyfi tref Rhuthun; Archifwyd 2015-03-19 yn y Peiriant Wayback. 19 Medi 2014
  2. The Collegiate and Parochial Church of St Peter; booklet published internally by the church. Written by church members of the Dioces.
  3. The History of Ruthin by David Castledine; published 1979 by Denbighshire Records Office.