Syr Eubule Thelwall

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Syr Eubule Thelwall
Eubule Thelwall (1562–1630) by Gilbert Jackson; kept at NLW.jpg
Ganwyd 1557 Edit this on Wikidata
Bu farw 1630 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth gwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1624-25 Parliament, Member of the 1626 Parliament, Member of the 1628-29 Parliament Edit this on Wikidata
Gofal: ceir Eubule Thelwall arall o'r un teulu (1622–1695)

Cyfreithiwr, academydd a gwleidydd Cymreig ariannog oedd Syr Eubule Thelwall (c.15628 Hydref 1630)[1] a oedd yn aelod o Dŷ'r Cyffredin rhwng 1624 a 1629. Roedd hefyd yn Brifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen, Rhydychen rhwng 1621 a 1630. Ceir llun ohono'n blentyn a chofeb iddo yng Ngholeg yr Iesu. Roedd yn or-ewyrth i Eubule Thelwall a gysylltir gyda Nantclwyd y Dre.

Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Eubule oedd pumed mab John Wynne Thelwall ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Westminster cyn mynychu Coleg y Drindod, Caergrawnt ble derbyniodd radd Bachellor yn y Celfyddydau ym 1577[2] cyn ei throi hi tua Rhydychen ar 14 Gorffennaf 1579 ble derbyniodd radd Meistr yn y Celfyddydau ar 13 Mehefin 1580. Ym 1595 cafodd ei alw i'r bar. Chwe mlynedd yn ddiweddarach fe'i apwyntiwyd yn stiward a chofnodydd yn Rhuthun ble adeiladodd Plas Coch (bellach yn Glwb y Ceidwadwyr) ac ar 28 Rhagfyr daeth yn Glerc y Goron yn Sir Fôn, Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd am oes. Daeth yn aelod o Gray's Inn ar 16 Mehefin 1612. Rhwng 1617 a 1630 ef oedd Meistr y Siawnsri.[3]

Cofeb i Syr Eubule Thelwall, 1630, yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.

Y diwedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni phriododd Eubule Thelwall pan fu farw ar 8 Hydref 1630 yn 68 oed. Fe'i claddwyd yng Ngholeg yr Iesu a chodwyd cofeb iddo gan ei frawd Syr Bevis Thelwall. Ei nai John a etifeddodd ei ystâd.

Y teulu Thelwall[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Thelwall (teulu)

Roedd nifer o'r teulu dros y blynyddoedd yn gyfreithwyr. Cysylltir y teulu gyda: Plas y Ward, Bathafarn a Phlas Coch, Sir Ddinbych. Daeth John Thelwall i ardal Rhuthun o ardal Thelwall yn Sir Gaer, tua'r flwyddyn 1380 a hynny gyda Reginald de Grey. Priododd ei fab John Ffelis, merch ac etifeddes Walter Cooke neu Ward, o Blas y Ward, a dyna gysylltu'r ffermdy hwnnw gyda'r teulu. Gor-ŵyr i John a Ffelis oedd Richard Thelwall a fu farw yn Eisteddfod Caerwys ym 1568 tra'n eistedd ar y comisiwn. Etifedd Richard Thelwall oedd Simon Thelwall (1526 - 1586), a wnaed yn fargyfreithiwr ar 8 Chwefror 1568, ac yn aelod seneddol dros Sir Ddinbych. Yn ddirprwy-farnwr Caer yn 1584 dyfarnodd ef Rhisiart Gwyn y merthyr Catholig o Lanidloes i'w farwolaeth.[4]

Mab hynaf Simwnt Thelwall o'i briodas gyntaf oedd Edward Thelwall (m. 1610) a briododd (yn drydedd wraig iddo) Catrin o Ferain a phriododd Simon, ei fab o'r ail briodas Gaenor, merch Elis Prys (Y Doctor Coch) o Blas Iolyn, ac o'r briodas hon y disgynnodd Thelwaliaid Rhuthun.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 4 Gorffennaf 2014
  2. "Thelwell, Eubule (THLL573E)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
  3. W R Williams The Parliamentary History of the Principality of Wales
  4. Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 4 Mehefin 2014.