Nantclwyd y Dre

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Nantclwyd y Dre
Nantclwyd-y-dre, Ruthin, exterior view front elevation.jpg
Math  Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Plas Nantclwyd Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Gabriel Goodman, Eubule Thelwall Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1435 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliad Rhuthun Edit this on Wikidata
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.1136°N 3.31078°W Edit this on Wikidata
Manylion
Perchnogaeth Cyngor Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Deunydd carreg, plethwaith a chlai, Pren Edit this on Wikidata

Tŷ canoloesol a gychwynwyd ei godi yn 1435 ar Ffordd y Castell, Rhuthun, Sir Ddinbych, ydyw Nantclwyd y Dre, neu Tŷ Nantclwyd fel y'i gelwid cyn 2007. Hwn yw'r tŷ trefol ffrâm bren hynaf yng Nghymru.[1][2] Mae'n agored i'r cyhoedd ac yn gyrchfan twristaidd poblogaidd. Datblygwyd y ffurf drawiadol, fel y'i gwelir heddiw, yn ddiweddarach yn yr 17g.

Gronw ap Madog a adeiladodd y tŷ gwreiddiol gydag arian a wnaeth fel gwehydd, masnachwr a nyddwr.[3] Ychwanegwyd cryn dipyn ato dros y blynyddoedd a bu'n gartref i ddau glerc, crwner, pobydd a bragwr. Yna, yn 1571 prynwyd y tŷ gan Thomas Wynn ap John ap Harry, ac ymestynwyd y tŷ gan iddo brydlesu gardd fawr yn y cefn. Etifeddodd ei fab Simon Parry'r cartref; cyfreithiwr oedd ef, y cyntaf i droi'r "ap Harry" i'r cyfenw 'Parry'. Ef a adeiladodd Plas Nantclwyd yn Llanelidan, rhyw ddwy filltir o dref Rhuthun. Tua'r adeg yma y rhoed yr enw "Nantclwyd" ar y lle. Gwnaeth hefyd welliannau mawr i'r tŷ. Ganwyd Gabriel Goodman (6 Tachwedd 1528 – 17 Mehefin 1601) yn Nantclwyd y Dre, yn ail fab i'r masnachwr cefnog Edward Goodman. Prin yw'r wybodaeth am ei flynyddoedd cynnar, ond awgryma bywgraffiad ohono o'r 19g y cafodd ei addysgu adref gan un o offeiriaid yr eglwys golegol yn Rhuthun a oedd wedi'u diddymu cyn iddo fynychu Prifysgol Rhydychen oddeutu 1543 ac yna Prifysgol Caergrawnt.[4]

Wiliam oedd ail fab Simon ac iddo ef yr aeth y ddau 'Nantclwyd' a hynny yn 1605. Cyfreithiwr oedd yntau, fel ei dad, a phriododd Martha Thelwall ac yna Mary, merch Plas Bodidris. Cafodd blentyn ganddi o'r enw Mary, ac yn 1653 priododd Mary Eubule Thelwall.

Bu cenedlaethau o'r Wynniaid yn berchnogion y tŷ hefyd rhwng 1722 a 1925. Edward Wynne o Blas Uchaf, Llannefydd oedd y cyntaf ac yn 1797 gosododd y Wynniaid y tŷ i denantiaid megis ffermwyr, bragwyr, meddyg a chyfreithiwr. Rhwng 1886 ac 1893 ysgol i foneddigesau ifanc oedd yr adeilad. Yna bu'n reithordy ac yn dŷ i farnwr. Gwerthodd Mrs Jeane Dyer Gough y tŷ yn 1984 i Gyngor Sir Clwyd am £70,000.

Mae pob ystafell wedi eu adfer i gyfnod arbennig, a chaiff ei gyfrif yn un o'r adeiladau canoloesol gorau sydd ar agor i'r cyhoedd.

Gwneuthuriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Taflwyd y coed i greu'r ffrâm bren yn lleol ac fe'i codwyd o fewn deunaw mis iddynt gael eu torri. Gwyddom fod y rhan o'r tŷ a godwyd yn 1491 (ac a ddymchwelwyd bellach) wedi'i chodi o 8 derwen o Barc Bathafarn a 6 o Goed Marchan, oddeutu dwy filltir o'r safle. Mae astudiaeth o fodrwyau'r coed yn dangos fod y coed a dowlwyd rhwng 60 a 120 o flynyddoedd. Gan ei bod yn haws symud waliau pren na charreg, newidiwyd safle nifer o'r ystafelloedd dros y blynyddoedd yn ddibynol ar y ffasiwn neu'r defnydd o'r ystafelloedd. Ychwanegwyd rhannau newydd yn 1620-7 gan Seimon Parry a gan Eubule Thellwall rhwng 1662 a 1693 er enghraifft. Dim ond yn ochr deheuol yr adeilad (yr ochr agosaf at Gastell Rhuthun) a rhan cefn y tŷ y ceir waliau carreg. Mae'r pren cynharaf i gael ei dorri – ac sydd i'w weld heddiw`yn y neuadd – yn dyddio'n ôl i rhwng 1336 a 1434 a chredir iddo gael ei roi at ei gilydd ar y safle presennol tua 1435.[5]

Dangosodd archwiliad archaeolegol fod olion cynharach ar y safle gan gynnwys tyllau pyst adeilad pren.[6]

Ystafelloedd[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Neuadd Fawr c. 1435. Dyma brif ystafell y tŷ ac fe'i newidiwyd cyrn dipyn dros y blynyddoedd. Codwyd y nenfwd bwaog plastr rhwng 1660–90 a'r galeri derw yn negawdau olaf yr 17g.
  2. Stydi'r Rheithor c. 1693. Ychwanegiad a wnaed gan Eubule Thelwall yw hwn, er bod yn ffenestri'n perthyn i gyfnod diweddarach. Gosodwyd y paneli tua 1993. Enwyd yr ystafell ar ôl y Parch. Thomas Pritchard a arferai fyw yn y tŷ rhwng 1907 a 1917.
  3. Yr ystafell ddosbarth. Gellir dyddio'r ystafell hon i tua 1627 ond fe'i dodrefnwyd yn null cyfnod llawer diweddarach – sef c. 1891 pan drigai tenant yma o'r enw Miss Charlotte Price a gadwai ysgol i ferched yma rhwng 1886 a 1893. Mae gers wnio ar gychwyn, fel y gwelir o'r mân offer.
  4. Yr Ystafell Wely Siorsaidd c. 1734. Dyma brif ystafell wely'r cyfnod ac estyniad i'r tŷ a wnaed ar gyfer John Wynne a Dorothy Williams ar eu priodas. Dodrefnwyd i'r cyfnod oddeutu 1740, gyda'r gwely wedi'i gopio o wely yn Erddig, Wrecsam.
  5. Stydi Eubule Thelwall c. 1690. Fe'i codwyd fel rhan o estyniad deulawr gan Thelwall a gwelir yma waith plaster a wnaed rhwng 1660-1670 yn cynnwys ffrwythau megis morwydd a gellyg, yn debyg iawn i waith plastar yn Nhŷ Mawr y Castell yn Nhrefynwy.
  6. Yr Ystafell Wely Siacobeaidd c. 1620. Gwyddom mai Simon Parry a gododd yr estyniad yma a hynny tua 1620 – mae bron yn union fel ag yr oedd yr adeg honno. Roedd lliain gwyrdd a glas yn lliwiau ffasiynol iawn yn y cyfnod hwn a gwelir lliain hefyd yn hongian ar y waliau – gan nad oedd papur wal – ac mae llieni'r gwely'n amgylchynu'r person ac yn cynnig peth cysgod oddi wrth y gwyntoedd aml. Tua hanner can mlynedd ar ôl codi'r ystafell hon codwyd ychwanegiad arall iddi – sef yr en suite gyda pho pi-pi ar ffurf cadair.
  7. Y Siambr ganoloesol c. 1435. Mae'r stafell wely yma fwy neu lai'n union fel ag yr oedd yn y canoloesoedd ac fei'i gosodwyd i edrych fel y byuasai yn 1475 - yn 'swyddfa' ar gyfer John Holland, marchandiwr a gweinyddwr a'i wraig Gwerful. Mae yma gist fawr, derw a nifer o ddodrefn o'r cyfnod hwn. Ceir gwely plentyn neu was neu forwyn yma hefyd.

Rhai nodweddion ac eitemau o bwys[golygu | golygu cod y dudalen]

Y porth[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 24.JPG

Saif siambr uwch ben y porth, ar golofnau pren hynod, ac a ychwanegwyd i'r prif adeilad yn 1693 gan Eubule Thelwall. Ceir cofadail iddo yn Eglwys Llanelidan. Ar un adeg, gan nad oedd pren yn cael ei ystyried yn ddefnydd chwaethus iawn, gorchuddiwyd y tu allan i'r ports hwn gyda phlaster o glai, gwellt a blew anifail, ac yna gwyngalch. Coch oedd ei liw gwreiddiol.

Darganfyddiadau archaeolegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych uwch 23.JPG

Mae'r cabined hwn yn llawn o ddarganfyddiadau archaeolegol a ganfyddwyd yng ngardd y tŷ. Yng gaeaf 2013 archwiliwyd yr ardd gyda chrib mân gan archaeolegwyr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys.

Cadair Samuel Dyer Gough[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 07.JPG

Gwnaed y gadair hon gyda llaw, yn gadair amlddefnydd. Y saer oedd S. Dyer Gough ei hun a oedd yn byw yma gyda'i wraig Jean a'u teulu. Pensaer oedd Gough ond roedd hefyd yn grefftwr ac yn hanesydd. Cawsant ddylanwad mawr ar y tŷ yn ystod yr hanner canrif yr oeddent yn byw yno. dyma'r teulu olaf i fyw yn Nantclwyd y Dref.

Y cŵn Staffordshire[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 04.JPG

Ar y silff ben tân gwelir nifer o eitemau a brynnwyd er mwyn copio'r hyn a oedd yn y tŷ yng nghyfnod y teulu Dyer Goughs. Sylfaenwyd yr union eitemau ar ffotograff o'r 1940au ac mae'r ffotograff hwn hefyd i'w weld gerllaw. Gwelir yma hefyd ambell eitem 'patrwm helyg' Tsieiniaidd, fel sydd yn y llun.

Bottle jacks[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 12.JPG

Gellir weindio'r eitemau hyn fel eu bônt yn troi'n ara deg. Arferwyd bachu darnau o gig ar waelod y jacs a'u hongian ger y tân, er mwyn rhostio'r cig. Yn Ffrangeg, arferid eu galw'n tournebroches à contrepoids ac yn clockjacks yn Saesneg. Dyma'r dull fertig o rostio cig; gelwir y dull llorwedd yn "spit". Roedd troi'r cig fel hyn yn sicrhau nad oedd un ochr yn gor-losgi.

Panel plethwaith a chlai[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 10.JPG

Gwelir adeiladwaith waliau'r tŷ mewn un panel, wedi'i amddiffyn gan chwarel o wydr. Arferir defnyddio pren helyg gan eu bônt yn ystwyth ac felly'n hawdd i'w plethu. Gorchuddiwyd y plethwaith hwn gyda chlai, gwellt a blew anifail er mwyn cadw'r gwynt a'r oerfel o'r ystafelloedd. Yna, gorchuddiwyd y cyfan gyda phlaster o wyngalch. Doedd gweld pren mewn ystafell ddim yn cael ei ystyried yn rhywbeth chwaethus iawn, felly gorchuddiwyd pob darn o'r tŷ gyda'r rendr yma. Dyddiwyd oedran y pren yma yn ddiweddar i tua 1435.

Ffôn Magneto Ericsson 1905[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych uwch 6.JPG

Nantclwyd y Dre oedd y tŷ cyntaf yn y stryd i gael y math diweddaraf hwn o ffôn. Bu'r Parch. Thomas Pritchard yn byw yma rhwng 1907 a 1917; ef oedd Rheithor Eglwys Llanfwrog. Mae'r cas pren yn dal dau fatri er mwyn gweithio'r meicroffôn. Drwy droi'r handlen, canwyd cloch yn y gyfnewidfa, yna byddai'r defnyddiwr yn dweud y rhif yr oedd yn ei geisio.

Desg athro[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 79.JPG

Rhwng 1886 a 1893 roedd ysgol yn yr adeilad: Ysgol Miss Charlotte Price i ferched ifanc, o deuluoedd cyfoethog. Gosodwyd yr ystafell fel pe tae'r merched ar ganol gwers gwnio. yn 11 oed, gadwair'r merched yr ysgol hon gan fynd i'r ysgol sirol (Ysgol Brynhyfryd heddiw).

Ystafell wely Georgiaidd – yr ystafell newid[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 68.JPG

Ystafell fechan er mwyn newid dillad mewn preifatrwydd. Fe'i crewyd gan deulu'r Wynniaid oddeutu 1734. Mae'r papur wal (c. 1750–1760) wedi'i sefydlu ar batrwm Tsieiniaidd a oedd yn hynod o ffasiynol yr adeg honno.

Bwrdd yn yr ystafell Jacobiaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 58.JPG

Arlwywyd y bwrdd ar gyfer cinio a gwelir cwpannau piwtyr – arwyddion o gyfoeth yr adeg honno. Crewyd yr ystafell hon a'r en-suit y drws nesaf tua 1620.

Stydi Eubule Thelwall[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 47.JPG

Ceir gwaith plaster hynod ar y nenfwd pan grewyd yr ystafell hon oddeutu 1663.

Siambr Ganoloesol[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 40.JPG

Dyma un o ystafelloedd hyna'r tŷ wedi'i dodrefnu i'r cyfnod, gyda desg syml. Cynfas gyda chŵyr drostynt sydd ar y ffenestri er mwyn cadw'r gwynt a'r glaw allan. Goleuwyd yr ystafelloedd gyda chanhwyllau.

Y gazebo[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 73.JPG

Ym mhen pellaf yr ardd saif adeilad a gofrestrwyd yn Radd II a chredir ei fod yn dyddio'n ôl i'r 18g gan nad yw'n ymddangos mewn lluniau tan 1715. Defnyddiwyd y llawr uchaf am gyfnod gan dair merch Dyer-Gough yn y 1940au. Heddiw defnyddir y llawr gwaelod i gadw offer garddio o'r 20g cynnar.

Plu estrys[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 67.JPG

Mae'r rhain i'w gweld ar dop y pyst gwely yn yr ystafell wely Jacobeaidd. Ar gychwyn yr 17g roedd plu fel y rhain yn cael eu hystyried yn bethau dymunol a ffasiynol iawn i'w cael ac yn feincnod o gyfoeth perchennog y tŷ: Simon Parry.

Galeri'r Neuadd Fawr[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 22.JPG

Efallai mai un o brif nodweddion y tŷ yw'r Neuadd Fawr gyda'i galeri derw ar hyd dwy ochr iddi. Mae'r pren a ddefnyddiwyd i greu'r galeri hwn wedi'i ddyddio i ddegawdau olaf yr 17g, er bod y tariannau gydag arfbeisiau arnynt ychydig yn iau, gan deuu'r Wynniaid mae'n debyg.

Yr ardd gefn[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre - geograph.org.uk - 803861.jpg

Gardd gyda waliau o'i chwmpas ydy hon a chredir ei bod yn cydfynd gyda'r tŷ ers y 15g, fel gardd fwrdais (burgage plot). Dewisiwyd planhigion o'r oes hon yn y borderi, gan gynnwys lilis a rhosod.

Sampler[golygu | golygu cod y dudalen]

Engraifft o sampler plentyn, wedi'i arddangos yn y stafell ddosbarth. Gwaith nodweddiadol o'r hyn a oedd yn cael ei greu gan ferch, Annie Parry-Williams efallai, a gwyddom o gofnodion sirol o'r ysgol iddi fynychu "Ysgol Miss Preis" yma yn Nantclwyd y Dre.

Bwrdd gwisgo Siorsaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 70.JPG

Dyma ddodrefnyn gwreiddiol a fyddai'n sicr o fod wedi cael defnydd helaeth mewn ystafelloedd gwely gwragedd mewn cartrefi fel hyn. Mae'n dyddio i tua 1740. Ychwanegwyd yr ystafell wely yma gan deulu'r Wynniaid tua 1734 yn dilyn priodas John Wynne a Dorothy Williams.

Yr atic[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r drws hwn yn arwain i'r atic, ble arferai'r gweision a'r morynion gysgu yn y 18g (y Cyfnod Siorsaidd). Cedwir y drws yngáu'r dyddiau hyn gan fod tri math o ystlumod yma: y pipistrelle, yr ystlum clustiau hirion a'r ystlum pedol lleiaf. Yr olaf o'r rhain ydy'r prinaf a chredir fod cymuned o oddeutu 60 ohonyn nhw yn yr atig. Gellir eu gwylio ar sgrin sydd wedi'i leoli ar y llawr gwaelod.

Po Pi-pi[golygu | golygu cod y dudalen]

Nantclwyd y Dre, Rhuthun, Sir Ddinbych 63.JPG

Po neu doiled (neu Stool of ease) o'r 17g, sef stôl bren gyda chaead a photyn clai oddi fewn iddi, i ddal y carthion. Saif yn yr hyn y byddem heddiw'n ei alw'n en suite, yn rhan o'r ystafell wely Siacobeaidd a godwyd gan Simon a Jane Parry.

Graffiti ar y mur![golygu | golygu cod y dudalen]

Tra'n atgyweirio'r tŷ darganfuwyd ysgrifen mewn pensil y tu ôl i banel pren yn y parlwr: “John Edwards joiner Holywell 15th of May 1926”.

Ffynnon inc[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwnaed y ffynnon hon o biwtyr ac mae hefyd yn galendr - o droi'r cylchoedd sydd ar waelod y ffynnon: diwrnod, dyddiad a mis.

Perchnogion yr adeilad[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1335–1441: Gronw ap Madog a Suzzanna a'u tri mab. Teiliwr, gwehydd a benthyciawr arian. Nid oes sôn amdanynt wedi 1441.
  • 1441 – cyn 1456: John Grey O bosib yn fastad mab Reynold (neu Reginald) Grey (m. 1440).
  • 1456 – Gruffydd ap Madog ap Cyn (Geoffrey the Clerk) Casglwr rhent yn Styd y Cymry, neu Welsh Street ac yna am gasglu amobr (dirwy o 10 swllt a dalwyd iddo gan ferched a oedd wedi cael cyfathrach rywiol y tu allan i briodas.
  • 1480au – John Flixton o ardal manceinion.
  • 1480 ymlaen: John Holland a Gwerful (merch Eubule Thellwall. Benthyciwr arian a bragwr hefyd o ardal Manceinion. Mae conod llys yn dangos iddo godi estyniad.
  • 1550au – roedd yn nwylo mab John a Gwerful, sef David (m. 1556) ac yna.
  • 1571 – Thomas Wynn ap John ap Harry a Marged ferch John Gruffydd o Ynys Môn. Eu mab Simon Parry (ap Harri cynt) – cyfreithiwr yn Llundain – oedd yn byw ym Mhlas Nantclwyd, Llanelidan. Daeth mab arall, Gabriel, yn brifathro Ysgol Rhuthun yn 1607.
  • 1627 – William mab Simon Parry'n etifeddu'r eiddo. Cynyddodd ei eiddo yn Llanelidan i dros fil o erwau.
  • 1653 unig ferch William a Mary yn etifeddu'r tŷ a phriododd Eubule Thelwall (1622–1695) sef trydydd mab John Thellwall o Barc Bathafarn. Am gyfnod byr wedi'i farwolaeth bu'r tŷ yn nwylo ei ferch Dorothy na chafodd blant.
  • 1695 – perchennog y tŷ erbyn hyn oedd mab William sef Eubule (ieuengaf).
  • 1733 – trosglwyddwyd y tŷ i'w ferch ieuengaf Martha a briododd Thomas Puleston o Emral[7].

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 'Nantclwyd y Dre' gan Christopher J. Williams a Dr. Charles Kightly; Cyhoeddwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, Haf 2007
  2. Gweler adroddiad Richard Suggett (RCAHMW): the earliest dated timber-framed town house in Wales.
  3. Cofnodion Llys Bwrdeisdref Rhuthun, 14 Rhagfyr 1435. Mae'r cofnodion yn dangos fod Suzanna (Saesnes) yn talu 8 swllt o rent gan iddi briodi Cymro (Gronw), yn hytrach na'r 2 swllt arferol am ddau blot o dir. Ateb Gronw oedd iddo ef, fel ei dad, gael ei eni a'i fagu'n ddyn rhydd o fewn y dref.
  4. Y Bywgraffiadur Ar-lein; gwefan y Llyfrgell genedlaethol; adalwyd 4 Gorffennaf 2014
  5. Labordy Dendrochronology Rhydychen; Mehefin 2004; Argraffwyd y canfyddiadau yn "Nantclwyd y Dre - A Detailed History"; Argraffwyd 2007; ISBN 978-1-905865-06-2;
  6. Archaeoleg yng Nghymru, 33 (1993), tud 73-4.
  7. Cofnodion y Plwyf, Llanelidan; Archifdy Sir Ddinbych
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: