Plas Nantclwyd
Gwedd
Math | plas |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystad Nantclwyd |
Lleoliad | Llanelidan |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 110.9 metr |
Cyfesurynnau | 53.0568°N 3.32775°W |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Sioraidd |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae Plas Nantclwyd yn adeilad rhestredig Gradd II* yng nghymuned Llanelidan, Sir Ddinbych. Mae'n un o gartrefi'r teulu Naylor-Leyland ar stad Nantclwyd. Rhwng 1956 a 1970, dyluniwyd rhannau o'r tŷ, gerddi a pharc y plas gan y pensaer adnabyddus, Clough Williams-Ellis.[1]
Yn ystod yr 17g roedd Plas Nantclwyd yn adnabyddus fel lle a oedd yn groesawus i'r beirdd a'u crefft, fel sy'n amlwg o'r cywydd isod gan Mathew Owen o Langar.[2] Ymddengys bod rhai yn y cyfnod wedi arfer cyfeirio at y tŷ fel Pont y Go, ar ôl bont cyfagos dros Afon Clwyd.
- Ymhlwy Llanlidan wladedd
- mae lles mawr mae llys y medd;
- llawn yw hwn, llawen henwydd,
- o ennaint cler yn Nant Clwyd.
...
- er ganed plasau glennydd
- hyd doldir ein sir ni sydd
- nid adwen un, od ydi,
- yn y wlad hon, ail i ti
- am gwrw a bir, difir a dôn,
- a gae fyrdd, ag i feirddion.
- Wrth son, anfodlon wyf i,
- dig am hyn dy gamhenwi.
- Anrewsm enw a roesont,
- di-lân beth dy alw yn bont.
- Nid pont wyd, ond penna tŷ,
- cu diriongrair cadarngry.
- Pont ar Glwyd, pwynt i'r gwledydd,
- yn dy'ymyl, blas annwyl, fydd.
- Dithau ar fryn, goddfyn gwaed,
- na lysenwan, lys henwaed.
- Pont y Go yw honno ei hun
- dithau, plas Nantclwyd laslun.
Tenis
[golygu | golygu cod]Yn ôl traddodiad, rhoddodd Walter Clopton Wingfield dyfeisiwr y gêm tenis lawnt un o arddangosiadau cyntaf o'r gêm mewn parti Nadolig yn Nantclwyd ym 1873.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cronoleg Clough Williams-Ellis". Portmeirion Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-07. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2014.
- ↑ Jones, E.D.. "The Brogyntyn Welsh manuscripts". Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 7 (4 (Gaeaf 1952)): 277-315. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/listarticles/llgc-id:1277425/llgc-id:1279553. Adalwyd 7 Gorffennaf 2014.
- ↑ W. (2004, September 23). Wingfield, Walter Clopton (1833–1912), inventor of lawn tennis. Oxford Dictionary of National Biography. adalwyd 17 Chwef. 2019