Plas-y-ward

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Plas y Ward)

53°08′00″N 3°19′08″W / 53.1332°N 3.319°W / 53.1332; -3.319Cyfesurynnau: 53°08′00″N 3°19′08″W / 53.1332°N 3.319°W / 53.1332; -3.319

Plas-y-ward allan o A tour in Wales gan Thomas Pennant (1726-1798)

Plasty a fferm hynafol ger Rhuthun, Sir Ddinbych yw Plas-y-ward a gofrestwryd yn Radd II ar 18 Awst 1999 (rhif 22150). Saif 1.6 km i'r dwyrain o bentref Rhewl.

Dyma gartref teulu'r Thelwall am rai blynyddoedd, gan gynnwys Edward Thelwall (sef gŵr Catrin o Ferain) ac Elizabeth Salusbury (1720-1756) (merch Norfolk Salusbury). Roedd John Thelwall (27 Gorffennaf 1764 – 17 Chwefror 1834) yn awdur ac yn heddychwr cynnar.[1] Mae'r tŷ presennol yn dyddio i ddiwedd y 17g pan ddymchwelwyd yr hen blasdy pren.

Apwyntiwyd Richard Thelwall yn un o Gomisiynwyr Brenhines Lloegr yn Eisteddfod Caerwys yn 1568, a bu farw yno yn yr Eisteddfod ychydig wedyn. Bu erlynydd y Catholigion sef Simon Thelwall (1526 - 1586) hefyd yn byw yma, fe'i gwnaed yn fargyfreithiwr ar 8 Chwefror 1568, ac yn aelod seneddol dros Sir Ddinbych; roedd yn ddirprwy-farnwr Caer yn 1584 ac ef a ddyfarnodd Rhisiart Gwyn y merthyr Catholig o Lanidloes i'w farwolaeth. Ond yr enwocaf o drigolion y cartref hwn oedd Catrin o Ferain a fu'n byw yma o 1586 hyd at ei marwolaeth yn 1591.

Bu sawl un o'r trigolion hefyd yn Uwch Siryfion Sir Ddinbych yn 1572, 1590, 1612 a 1670.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato