Thelwall (teulu)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Roedd teulu'r Thelwall yn hannu o Thelwall, Lloegr ond a sefydlodd yn Nyffyn Clwyd a chawsant gryn ddylanwad ar fywyd y dyffryn a thu hwnt. Gelwir Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd ar lafar yn 'Eglwys y Thelwalliaid' gan fod cynifer o gobeau i aelodau'r teulu yn yr eglwys.

Ymhlith aelodau enwoca'r teulu y mae: Syr Eubule Thelwall (c.1562 – 8 Hydref 1630), Prifathro a noddwr Coleg yr Iesu, Rhydychen a thirfeddiannwr o'r un enw (Eubule) a oedd yn berchennog ar nantclwyd y Dre a Phlas Nantclwyd, sef Eubule Thelwall (g. 1622). Am y rhesymau cnghywir, efallai, y cofir Simon Thelwall (1526 - 1586), y gŵr a ddyfarnodd Rhisiart Gwyn (y merthyr Catholig) i'w farwolaeth.[1]

Roedd nifer o'r teulu dros y blynyddoedd yn gyfreithwyr. Cysylltir y teulu gyda: Plas y Ward, Bathafarn a Phlas Coch, Sir Ddinbych. Daeth John Thelwall i ardal Rhuthun o ardal Thelwall yn Sir Gaer, tua'r flwyddyn 1380 a hynny gyda Reginald de Grey. Priododd ei fab John Ffelis, merch ac etifeddes Walter Cooke neu Ward, o Blas y Ward, a dyna gysylltu'r ffermdy hwnnw gyda'r teulu. Gor-ŵyr i John a Ffelis oedd Richard Thelwall a fu farw yn Eisteddfod Caerwys ym 1568 tra'n eistedd ar y comisiwn. Etifedd Richard Thelwall oedd Simon Thelwall (1526 - 1586), a wnaed yn fargyfreithiwr ar 8 Chwefror 1568, ac yn aelod seneddol dros Sir Ddinbych. Yn ddirprwy-farnwr Caer yn 1584 dyfarnodd ef Rhisiart Gwyn y merthyr Catholig o Lanidloes i'w farwolaeth.

Mab hynaf Simwnt Thelwall o'i briodas gyntaf oedd Edward Thelwall (m. 1610) a briododd (yn drydedd wraig iddo) Catrin o Ferain a phriododd Simon, ei fab o'r ail briodas Gaenor, merch Elis Prys (Y Doctor Coch) o Blas Iolyn, ac o'r briodas hon y disgynnodd Thelwaliaid Rhuthun.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 4 Mehefin 2014.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: