Traddodiad llafar

Oddi ar Wicipedia
Dyn Cirgisaidd yn pefformio epig Manas mewn gwersyll iyrtiau yn Karakol.

Ffurf ar gyfathrebu gan fodau dynol sy'n trosglwyddo gwybodaeth, celf, llên, syniadau, a deunydd diwylliannol arall o oes i oes yw traddodiad llafar.[1][2] Trosglwyddir yr hynny ar lafar, drwy gyfrwng sgwrs neu anerchiad neu ar gân, gan gynnwys straeon gwerin, baledi, llafarganau, a phenillion. Trwy draddodiad llafar mae cymdeithas yn trosglwyddo llên lafar, hanes llafar, cyfraith lafar, a ffurfiau eraill ar wybodaeth o'r hen genhedlaeth i'r genhedlaeth iau heb yr angen am system ysgrifennu. Hwn felly oedd y prif fodd o drosglwyddo gwybodaeth mewn cymdeithasau cynlythrennog, ac yn agwedd bwysig hefyd mewn cymdeithasau llythrennog yn gyfochrog â llên ysgrifenedig. Mae crefyddau'r dwyrain megis Bwdhaeth, Hindŵaeth, a Jainiaeth, er enghraifft, wedi defnyddio traddodiadau llafar ar y cyd â systemau ysgrifennu i drosglwyddo'r ysgrythur ganonaidd, gwybodaeth seciwlar megis Sushruta Samhita, emynau, a mythau o oes i oes.[3][4]

Llên lafar[golygu | golygu cod]

Ffuglen a barddoniaeth a drosglwyddir o oes i oes ar lafar yn hytrach na thrwy ysgrifennu yw llên lafar. Gall gyfeirio at holl lenyddiaeth y gymdeithas gynlythrennog yn ogystal â thraddodiadau llafar y werin mewn cymdeithasau llythrennog.[5] Bu traddodiad o lên lafar gan y mwyafrif o gymdeithasau cynlythrennog, gan gynnwys straeon gwerin, chwedlau, diarhebion, rhigymau, dychmygion, a damhegion yn ogystal â gweithiau traethiadol hir. Cafodd mytholeg ac arwrgerddi'r Henfyd eu haddasu a'u datblygu gan feirdd llafar dros ganrifoedd cyn iddynt gael eu cofnodi'n ysgrifenedig. Mae llên lafar yn gorgyffwrdd i raddau helaeth â llên gwerin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Vansina, Jan: Oral Tradition as History (1985), reported statements from present generation which "specifies that the message must be oral statements spoken, sung or called out on musical instruments only"; "There must be transmission by word of mouth over at least a generation". He points out, "Our definition is a working definition for the use of historians. Sociologists, linguists or scholars of the verbal arts propose their own, which in, e.g., sociology, stresses common knowledge. In linguistics, features that distinguish the language from common dialogue (linguists), and in the verbal arts features of form and content that define art (folklorists)."
  2. Ki-Zerbo, Joseph: "Methodology and African Prehistory", 1990, UNESCO International Scientific Committee for the Drafting of a General History of Africa; James Currey Publishers, ISBN 0-85255-091-X, 9780852550915; see Ch. 7; "Oral tradition and its methodology" at pages 54-61; at page 54: "Oral tradition may be defined as being a testimony transmitted verbally from one generation to another. Its special characteristics are that it is verbal and the manner in which it is transmitted."
  3. Jack Goody (1987). The Interface Between the Written and the Oral. Cambridge University Press. tt. 110–121. ISBN 978-0-521-33794-6.
  4. Donald S. Lopez Jr. (1995). "Authority and Orality in the Mahāyāna". Numen (Brill Academic) 42 (1): 21–47. JSTOR 3270278.
  5. (Saesneg) Oral literature. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ebrill 2019.