Manas

Oddi ar Wicipedia


Arwrgerdd genedlaethol y Cirgisiaid yw Manas sydd yn traddodi hanes y batyr eponymaidd wrth iddo uno'r llwythau Cirgisaidd yn erbyn eu gelynion yn y frwydr am annibyniaeth. Fe'i cenir ar lafar yn gyhoeddus gan feirdd o'r enw masnachi hyd heddiw, wedi ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth dros sawl canrif, a chaiff ei hystyried yn gronfa o hanes, traddodiadau a diwylliant, a meddylfryd gwleidyddol a chymdeithasol y Cirgisiaid.

Rhennir cylch Manas yn dair rhan: Manas ei hun ydy arwr y rhan gyntaf; ei fab Semetey sydd yn brif gymeriad yr ail ran; ac am Seitek, mab Semetey, cenir y drydedd ran. Credir bod y cyfnod o'r 9g i'r 11g yn gefndir i'r cylch, ac yn ôl traddodiad y Cirgisiaid dyma oedd eu hethnogenesis. Cafodd pen-blwydd honedig Manas yn filflwydd oed ei dathlu ar gais llywodraeth Cirgistan yn 1995, mewn ymdrech i hyrwyddo undod ac hunaniaeth ddiwylliannol y genedl. Gellir olrhain traddodiad llafar y gerdd ei hun i'r 18g, ond mae nodweddion ynddi yn awgrymu ei bod ychydig yn hŷn na hynny. Dylanwadodd yn gryf ar lenyddiaeth Girgiseg ysgrifenedig gynnar, ac mae llawysgrifau yn seiliedig arni yn goroesi o ddechrau'r 20g.[1]

Cylch Manas ydy'r arwrgerdd hiraf yn y byd, a chanddi 500,553 o linellau yn y fersiwn a recordiwyd gan y masnachi Sayakbay Karalayev. Fel esiampl o farddoniaeth lafar, mae rhagor na 60 o wahanol fersiynau o Manas. Cedwir recordiadau ac argraffiadau o'r gerdd yn Academi Gwyddorau Genedlaethol Cirgistan.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Rafis Abazov, Historical Dictionary of Kyrgyzstan (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 181–2.