Neidio i'r cynnwys

Llenyddiaeth Girgiseg

Oddi ar Wicipedia
Llenyddiaeth Girgiseg
"Dyn yn adrodd arwrgerdd Manas ar ei gof
Enghraifft o'r canlynolsub-set of literature Edit this on Wikidata
Mathllenyddiaeth Edit this on Wikidata

Y corff llenyddol a ysgrifennir yn Girgiseg, yr iaith Dyrcaidd sydd yn frodorol i'r Cirgisiaid yng Nghanolbarth Asia, yw llenyddiaeth Girgiseg. Cirgisiaid sydd yn cyfri am ryw dri chwarter o boblogaeth Cirgistan, ac felly llenyddiaeth Girgiseg ydy'r brif draddodiad yn llên Cirgistan, sydd hefyd yn cynnwys yr ieithoedd Wsbeceg a Rwseg. Cynhyrchir corff llenyddol yn yr iaith Girgiseg yn ogystal gan y Cirgisiaid yng ngorllewin Tsieina.

Llên lafar a'r etifeddiaeth Tsagadai

[golygu | golygu cod]

Siaradesid tafodieithoedd unigryw gan Girgisiaid Afon Yenisei, ffurfiau ar yr Hen Dyrceg, ers eu goruchafiaeth dros yr Wigwriaid yn y 9g. Ysgrifennwyd yr iaith honno mewn llythrennau rwnig yr Hen Dyrceg, ac mae ambell ysgolhaig wedi rhoi'r enw Hen Girgiseg ar yr iaith a siaredid gan Girgisiaid Yenisei o'r 9g i'r 11g, ond nid oes tystiolaeth gadarn o lenyddiaeth Girgiseg yn goroesi o'r cyfnod hwn.

Mae'r llawysgrifau hynaf sydd gennym yn nhraddodiad llenyddol y Cirgisiaid yn dyddio o'r 19g. Yn wir, Tsagadai ydy iaith y rhain, ffurf lenyddol a oedd yn gyffredin i bobloedd Tyrcig Canolbarth Asia hyd at ddechrau'r 20g. Mae'r llenyddiaeth Girgiseg gynnar, er enghraifft barddoniaeth Moldo Nïyaz, yn cynnwys nodweddion o iaith lafar wedi eu hychwanegu at yr iaith Tsagadai safonol, a hynny drwy gyfrwng yr wyddor Arabeg. Dylanwadwyd yn gryf ar weithiau ysgrifenedig gan farddoniaeth lafar y Cirgisiaid, yn enwedig y cylch epig Manas. Mae llawysgrifau Cirgiseg yn seiliedig ar yr arwrgerddi hynny yn goroesi o ddechrau'r 20g. Un o'r llyfrau cyntaf i'w argraffu yn Girgiseg yw Qïssa-i zilzila ("Stori'r Daeargryn"; 1911) gan Moldo Qïlïch, enghraifft o sanat-nasïyat, genre sydd yn cyfuno'r delyneg â llên ddoethineb. Dyma esiampl o waith gwleidyddol sydd yn arddel delfrydau Mwslimaidd y genedl Girgisaidd yn wyneb imperialaeth Ymerodraeth Rwsia.[1]

Y cyfnod Sofietaidd

[golygu | golygu cod]

Wedi Chwyldro Rwsia a sefydlu'r Undeb Sofietaidd, parhaodd Cirgiseg ysgrifenedig i ddatblygu dan ddylanwadau'r ieithoedd Casacheg, Wsbeceg, a Thatareg hyd at y 1930au. Yn 1924 diwygiwyd a safonwyd yr wyddor Arabeg ar gyfer yr iaith, ac yn 1927 newidiwyd i'r wyddor Ladin. Yn 1941 mabwysiadwyd system o ysgrifennu Cirgiseg ar sail yr wyddor Gyrilig, a dyma'r drefn a barheir hyd heddiw yng Nghirgistan. Mae llenorion Cirgiseg yn Tsieina o hyd yn defnyddio'r wyddor Arabeg.[1]

Ysbrydolwyd llenorion Cirgiseg yn hanner cyntaf yr 20g, yn eu plith Aalï Tokombaev, Joomart Bökönbaev, Kubanïchbek Malikov, a Jusup Turusbekov, gan lên gwerin y Cirgisiaid. Dysgodd niferoedd mawr o Girgisiaid i ysgrifennu yn eu mamiaith dan gyfundrefn addysg y Sofietiaid, ac anogwyd ffurfiau llenyddol newydd megis ffuglen rhyddieithol gan yr awdurdodau diwylliannol. Cyhoeddwyd y stori fer gyntaf yn Girgiseg, Ajar, gan Kasïmalï Bayalinov yn 1927, a'r nofel gyntaf, Keng-Suu, gan Tügölbay Sïdïkbekov yn 1937–38, a sefydlwyd y papur newydd cyntaf, Erkin Too, yn 1924. Blodeuai hefyd yr ysgrif, y pamffled, y ddrama, llenyddiaeth plant, a chyfieithiadau.[1] Prif lenor y Girgiseg yn ail hanner yr 20g oedd Chingiz Aytmatov, nofelydd, awdur straeon byrion, ac ysgrifwr o fri sydd yn nodedig am weithiau megis Jamila (1958). Ymhlith y ffigurau eraill o'r cyfnod hwn mae'r bardd Alïkul Osmonov a'r nofelydd Uzak Abdukaimov.

Llenyddiaeth gyfoes

[golygu | golygu cod]

Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd yn 1991 ac annibyniaeth Cirgistan, blodeuai themâu gwleidyddol, cymdeithasol, crefyddol, ac hanesyddol yn llenyddiaeth Girgiseg. Mae sawl awdur yn ymdrin â'r ffydd Islamaidd, strwythurau traddodiadol y bobloedd Dyrcig, a phrofiad y Cirgisiaid dan sawdl y Tsar. Mae'r nofel fydryddol Kurmanjan Datka (1994) gan Sooronbai Jusuev yn traddodi hanes arweinydd y Cirgisiaid deheuol yn oes Ymerodraeth Rwsia. Yn ddiweddarach bu llenorion yn mynd i'r afael ag etifeddiaeth yr Undeb Sofietaidd ac effeithiau'r cwymp ar eu cymdeithas, er enghraifft Chingiz Aytmatov yn ei nofel ddystopaidd Kassandra tamgasy (1996). Yn yr 21g mae Melis Makenbaev ac eraill wedi arloesi ffuglen drosedd a ditectif yn yr iaith Girgiseg.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Kyrgyz literature. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ionawr 2020.