Cirgisiaid
| Enghraifft o: | grŵp ethnig, grwp ethno-ieithog |
|---|---|
| Math | Pobl Twrcaidd, Asiaid Canol |
| Mamiaith | Cirgiseg |
| Poblogaeth | 6,000,000 |
| Rhan o | Pobl Twrcaidd |
| Lleoliad | Canolbarth Asia |
| Gwladwriaeth | Cirgistan, Wsbecistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Rwsia, Tajicistan, Casachstan, Twrci, Affganistan, Wcráin, Unol Daleithiau America, Canada, Yr Eidal |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0pzdp |
Pobl Dyrcig o Ganolbarth Asia yw'r Cirgisiaid sydd yn byw yn bennaf yng Nghirgistan ac yn siarad yr iaith Girgiseg. Maent lleiafrifoedd ohonynt hefyd yn byw yn Affganistan, gorllewin Tsieina, Casachstan, Wsbecistan, Tajicistan, a Thwrci. Islam Sunni ydy ffydd y mwyafrif.

Nomadiaeth fugeiliol yw ffordd o fyw draddodiadol y Cirgisiaid. Gorchfygwyd gorllewin Tyrcestan gan Ymerodraeth Rwsia yn ystod ail hanner y 19g, a rhoddwyd tiroedd yn rhanbarth y Cirgisiaid i wladychwyr Rwsiaidd. Gwrthryfelodd y Cirgisiaid yn 1916, a chafodd degoedd o filoedd – o bosib cannoedd o filoedd – ohonynt eu lladd, a ffoes rhyw draean ohonynt dros fynyddoedd Tien Shan i Tsieina. Yn ystod cyfnod cynnar yr Undeb Sofietaidd, o 1926 i 1959, ymfudodd niferoedd mawr o Rwsiaid ac Wcreiniaid i Girgisia, a gostyngodd y gyfran o boblogaeth yr ardal a oedd yn Girgisiaid ethnig o 66% i 40%. Bu llawer ohonynt yn rhoi'r gorau i'w ffordd grwydrol o fyw ac yn amaethu neu yn symud i weithio yn y diwydiannau trymion yn y dinasoedd.