Wigwriaid
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
Pobl, Grŵp ethnig ![]() |
Math |
Pobl Twrcaidd ![]() |
Mamiaith |
Uyghur ![]() |
Crefydd |
Sunni ![]() |
Rhan o |
Pobl Twrcaidd ![]() |
Gwladwriaeth ble'i siaredir |
Gweriniaeth Pobl Tsieina, Casachstan, Cirgistan, Wsbecistan, Rwsia, Tyrcmenistan ![]() |
![]() |
Pobl Dwrcaidd sy'n byw yn Xinjiang, rhanbarth hunanlywodraethol o fewn Gweriniaeth Pobl Tsieina yw'r Wigwriaid.[1] Mae tua 31.4 miliwn ohonynt i gyd, 28.82 miliwn o'r rhain yn Xinjiang, lle maent yn ffurfio 45% o'r boblogaeth. Siaradant Wigwreg, sy'n un o'r ieithoedd Twrcaidd, ac maent yn ddilynwyr Islam o ran crefydd.
Ceir mudiad cenedlaethol ymhlith yr Wigwriaid sy'n anelu at annibyniaeth i Xinjiang dan yr enw Dwyrain Tyrcestan. Yn y blynyddoedd diwethaf, mewnfudodd nifer fawr o Tsineaid Han i Xinjiang, a bu cryn dipyn o dyndra ethnig rhyngddynt hwy a'r Wigwriaid, gydag ymladd ar y strydoedd ym mis Gorffennaf 2009.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Uighur, Uigur].