Dystopia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Dystopia neu amharadwys yw cymuned neu gymdeithas sy'n annymunol neu'n frawychus..[1][2] Daw'r gair 'dystopia' o'r Groeg δυσ- "drwg" and τόπος "lle"; gall hefyd gael ei alw yn cacotopia[3] neu wrth-iwtopia.

Mae cymdeithadau dystopaidd yn ymddangos mewn nifer o weithiau celf, yn arbennig mewn straeon sy'n cael eu gosod yn y dyfodol. Enghraifft adnabyddus yn y Gymraeg yw Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Ellis. Mae enghreifftiau enwog yn Saesneg yn cynnwys Nineteen Eighty-Four gan George Orwell a Brave New World gan Aldous Huxley. Mae dystopias yn aml yn cael eu nodweddu gan ddad-ddyneiddio,[1] llywodraethau sy'n teyrnasu drwy ormes, trychinebau naturiol,[2] a nodweddion eraill sy'n cael eu cysylltu â ddad-feiliad cataclysmig mewn cymdeithas. Mae cymdeithasau dystopaidd yn aml yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at gymdeithas, yr amgylchedd, gwleidyddiaeth, economeg, crefydd, seicoleg, moeseg, gwyddoniaeth neu dechnoleg. Mae rhai awduron yn defnyddio'r term i gyfeirio at gymdeithasau'r presennol, rhai sydd fel arfer yn, neu wedi bod yn, wladwriaethau neu gymdeithasau totalitaraidd.

Mae rhai ysgolheigion, fel Gregory Claeys a Lyman Tower Sargent, yn nodi gwahaniaethau penodol rhwng geiriau sy'n cael eu hystyried yn gyfystyr â dystopia. Er enghraifft, me Claeys a Sargent yn diffinio dystopiâu llenyddol fel cymdeithasau dychmygol sy'n sylweddol waeth na'r gymdeithas mae'r awdur yn perthyn iddi, tra bod gwrth-iwtopiâu yn gweithredu fel beirniadaeth o ymdrechion i weithredu gwahanol gysyniadau o iwtopia.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Definition of "dystopia"". Merriam-Webster, Inc.. 2012. http://www.merriam-webster.com/dictionary/dystopia.
  2. 2.0 2.1 "Definition of "dystopia"". Oxford University Press. 2012. http://oxforddictionaries.com/definition/english/dystopia?q=dystopia.
  3. Cacotopia (from κακός kakos "bad") was the term used by Jeremy Bentham in his 19th century works ("Dystopia". Archifwyd o y gwreiddiol ar 26 March 2006. https://web.archive.org/web/20060326062103/http://www.netcharles.com/orwell/articles/col-dystopia.htm.
  4. "The Utopia Reader". https://books.google.com/books?id=24EUCgAAQBAJ&printsec=frontcover&source=gbs_ge_summary_r&cad=0#v=onepage&q&f=false.