Wythnos yng Nghymru Fydd
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Islwyn Ffowc Elis |
| Cyhoeddwr | Plaid Cymru |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1957 |
| Genre | Nofel ffuglen wyddonol |
| Lleoliad y gwaith | Cymru |
| Dynodwyr | |
Nofel ffuglen wyddonol gan Islwyn Ffowc Elis a gyhoeddwyd gan Plaid Cymru yn 1957 yw Wythnos yng Nghymru Fydd.
Plot
[golygu | golygu cod]Yn yr 1950au, mae prif gymeriad y nofel, Ifan Powell, yn cytuno i gymryd rhan mewn arbrawf gwyddonol ac yn teithio drwy amser i Gaerdydd yn y flwyddyn 2033. Mae'n aros gyda theulu Doctor Llywarch sydd yn mynd ag ef ar daith o gwmpas Cymru. Yno y mae'n canfod fod Cymru wedi ennill hunan-lywodraeth, yn llewyrchus yn economaidd, yn heddychlon yn gymdeithasol ac y mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu gyda phawb yn gwbl ddwyieithog. Syrthia Ifan mewn cariad â merch Doctor Llywarch, Mair, ac wedi iddo ddychwelyd i Gymru'r 1950au mae ei hiraeth amdani'n peri iddo fynnu mynd yn ôl i 2033. Er i'r gwyddonydd, Doctor Heinkel, sydd yn gwneud yr arbrawf ei gynghori yn erbyn hyn, y mae'n cytuno wedi i Ifan erfyn arno.
Fodd bynnag, mae Ifan yn dychwelyd i Gymru ddystopaidd, er ei fod yn ymddangos eto yng Nghaerdydd yn 2033. Yn y fersiwn hwn o'r dyfodol, Western England yw'r enw ar Gymru, mae'r iaith Gymraeg wedi marw a phob arlliw o hunaniaeth Gymreig wedi diflannu. Mae'r gymdeithas hefyd yn ansefydlog a llawn helynt. Dim ond am ddeuddydd y mae Ifan yn aros yma - y mae hynny yn fwy na digon iddo. Yn y rhan hon o'r nofel y ceir Ifan yn dod wyneb yn wyneb â Hen Wraig y Bala a phrofi marwolaeth y Gymraeg gyda'i lygaid ei hun.
Wedi i Ifan ddychwelyd am yr eildro i'r presennol mae Doctor Heinkel y gwyddonydd yn egluro iddo fod y ddwy Gymru y bu Ifan yn ymweld â hwynt yn bosibiliadau ar gyfer y dyfodol a bod tynged y wlad yn nwylo Cymry'r presennol. Yn sgil hyn y mae Ifan yn troi yn genedlaetholwr Cymreig (yr oedd gynt yn gwrthwynebu cenedlaetholdeb Cymreig) gan ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau mai'r Gymru y bu ynddi hi yn gyntaf fydd yn dod yn wir.
Arwyddocâd
[golygu | golygu cod]Mae'r nofel yn arwyddocaol yng nghyd-destun hanes llenyddiaeth Gymraeg fel enghraifft cynnar o ffuglen wyddonol i oedolion yn yr iaith; mae'n debyg mai hi oedd y nofel ffuglen wyddonol Gymraeg gyntaf i oedolion i ymddangos fel cyfrol (mae'n debyg mai'r nofel gyntaf un oedd Enaid Lewys Meredydd T. Gwynn Jones, a gyhoeddwyd yn ddi-enw yn 1905 yn Papur Pawb, ond dim ond yn 2024 y cyhoeddwyd y nofel honno fel cyfrol).[1] Roedd nofel i blant wedi'i chyhoeddi gan E. Tegla Davies yn 1925 sef Rhys Llwyd y Lleuad (1925); cyfeiria Islwyn Ffowc Elis at honno ac at yr awduron ffuglen wyddonol enwog H.G. Wells a Jules Verne yn ei ysgrifau 'Mynd i'r Lleuad'; gellir dadlau iddynt oll ysbrydoli'i waith.
Adeg ei chyhoeddi, dim ond un adolygiad ohoni a ganiatawyd, sef adolygiad gan E. Tegla Davies ar gyfer cylchgrawn Plaid Cymru, Y Ddraig Goch,[2] a tueddwyd i ddiystyru'r nofel gan ysgolheigion llenyddiaeth yn ystod y degawdau ar ôl y cyhoeddiad gwreiddiol, a gan yr awdur ei hun hefyd a ystyriai'r nofel yn ddim ond propaganda gwleidyddol.[3]
Fodd bynnag, erbyn diwedd yr 20g a dechrau'r 21g dechreuwyd ystyried y nofel eto o berspectifau gwahanol, a bu cryn drafod ar agweddau amrywiol ar y nofel gan sylwebwyr mewn sawl maes gan gynnwys gan Lowri Haf Cooke[4] ac ar BBC Radio Cymru.[5] Mae'r nofel wedi bod yn destun sawl trafodaeth academaidd, gan gynnwys gwaith Johan Schimanski,[6][7][8] Kate Crockett,[9] Gareth Llyr Evans,[10] Chris Pak[11] a Miriam Elin Jones.[12] Mae'r astudiaethau hyn yn gosod y nofel fel gwaith o bwys yn hanes ffuglen wyddonol yn Gymraeg, a gwaith sy'n datgelu llawer am berspectifau'r traddodiad Cenedlaethol ar ystod o bynciau.
Ail-argraffwyd y llyfr yn y 1990au ac eto yn 2007 ar bum deg mlwyddiant y cyhoeddiad gwreiddiol. Yn 2017 rhestrwyd y nofel fel un o ddeg yn y Gymraeg y "dylai pawb eu darllen".[13]
Yn ogystal ag Wythnos yng Nghymru Fydd, cyhoeddwyd un nofel ffuglen wyddonol (neu wyddonias) arall gan Islwyn Ffowc Elis, sef Y Blaned Dirion, yn 1968. Cyhoeddwyd hefyd stori fer ffuglen wyddonol yn ail rifyn cyfnodolyn Y Gwyddonydd, 'Y Golau Estron' yn 1964.[14]
Addasiadau
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd fersiwn o Wythnos yng Nghymru Fydd i ddysgwyr gan Wasg Gomer yn 1993.[15] Cyfieithwyd y nofel i'r Saesneg yn 2021.[16]
Yn 2017 addaswyd y nofel yn opera, gyda cherddoriaeth gan Gareth Glyn a libreto gan Mererid Hopwood.[17] Yn 2026 addaswyd y gwaith fel drama lwyfan gyda script gan Mared Llywelyn.[18]
Dylanwad tramor ar Wythnos yng Nghymru Fydd
[golygu | golygu cod]Ysbrydolwyd y stori gan lwyddiant llyfr Altneuland gan Theodor Herzl oedd yn cyflwyno agenda Seioniaeth ar gyfer sefydlu gwladfa Iddewig ym Mhalesteina.[angen ffynhonnell] Cyhoeddwyd y llyfr yn 1902 a bu'n ddylanwadol iawn ar Iddewon y cyfnod ac wedyn. Enwyd y ddinas Tel Aviv ar ôl teitl cyfieithiad Hebraeg o'r llyfr.
Addasiadau
[golygu | golygu cod]Yn 2026, cyhoeddodd Theatr Frân Wen eu bod am lwyfannu "ail-ddychmygiad beiddgar" o'r nofel o dan yr un enw, a hynny yn yr Hydref. Mared Llywelyn Williams fydd yng ngofal yr addasiad gyda Gethin Evans yn cyfarwyddo. Mae'r cynhyrchiad mewn cyd-weithrediad â Galeri ac yn cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol.[19]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Price, Stephen (2024-04-14). "Publisher unearths early Welsh science fiction novel". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-04-14.
- ↑ Davies, E. Tegla (Hydref 1957). "Adolygiadau: Wythnos yng Nghymru Fydd". Y Ddraig Goch: 5.
- ↑ Chapman, T. Robin (2003). Rhywfaint o Anfarwoldeb: Bywgraffiad Islwyn Ffowc Elis. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 122. ISBN 1843232243.
- ↑ https://lowrihafcooke.wordpress.com/2017/11/27/adolygiad-theatr-wythnos-yng-nghymru-fydd-opra-cymru/
- ↑ https://www.bbc.co.uk/programmes/b09cm1bv
- ↑ Schimanski, Johan (1994). "Wythnos yng Nghymru Fydd – unwaith eto’, Taliesin, 88 (1994), 24-30". Taliesin: 24-30.
- ↑ Schimanski, Johan (1997). "Hen Wraig y Bala". Barn 414/415: 72-3.
- ↑ Schimanski, Johan (2000). "Singing 'Che Gelida Manina' In Welsh: Internal and External Cultural. Translation In the Future Wales of Islwyn Ffowc Elis". Interlitteraria 5: 365-74.
- ↑ Crockett, Kate (1996). "Cenedl! Cenedl!: Kate Crockett ar ddystopia". Tu Chwith 6: 70-77.
- ↑ Evans, Gareth Llyr (2017). "Ymlaen Mae Canaan: Dyfodoldeb yn Hanesyddiaeth y Theatr Gymraeg". Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 1-30. ISBN 9781786830340.
- ↑ Pak, Chris (2023). "Chris Pak, ‘Visions of the Future, Farming and Land Use in Welsh Science Fiction’, Revista Helice, 33 (2023), 48-65.". Revista Helice 33: 48-65. https://www.revistahelice.com/en/book/helice-33-2/.
- ↑ Jones, Miriam Elin (2025). "'Dim Newydd Dan Haul'?: Y tensiynau rhwng traddodiad a newydd-deb yn ffuglen wyddonol Islwyn Ffowc Elis.". Gweddnewidiadau: Ysgrifau Beirniadol XXXV. Talybont: Y Lolfa. tt. 67–99. ISBN 9781800996281.
- ↑ Nation.cymru, Deg Nofel Gymraeg y Dylai Pawb eu Darllen, 24-10-2017 (Adalwyd 7-8-2026)
- ↑ Elis, Islwyn Ffowc (1964). "Y Golau Estron". Y Gwyddonydd 2.
- ↑ Elis, Islwyn Ffowc; Davies, Basil (1993). Wythnos yng Nghymru Fydd: ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 1859020607.
- ↑ www.future.wales '[www.future.wales A Week in Future Wales' (Adalwyd 7-9-2026).
- ↑ Ensemble.cymru WORLD PREMIERE: Wythnos yng Nghymru Fydd (Adalwyd 7-8-2026)
- ↑ www.franwen.com, Wythnos Yng Nghymru Fydd (Adalwyd 7-8-2026)
- ↑ "Wythnos yng Nghymru Fydd". Frân Wen. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2026.