Wythnos Yng Nghymru Fydd
![]() | |
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Islwyn Ffowc Elis |
| Cyhoeddwr | Plaid Cymru |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1957 |
| Genre | Nofel ffuglen wyddonol |
| Lleoliad y gwaith | Cymru |
| Dynodwyr | |
Nofel ffuglen wyddonol gan Islwyn Ffowc Elis a gyhoeddwyd gan Plaid Cymru yn 1957 yw Wythnos yng Nghymru Fydd.
Y Plot
[golygu | golygu cod]Yn yr 1950au, mae prif gymeriad y nofel, Ifan Powell, yn cytuno i gymryd rhan mewn arbrawf gwyddonol ac yn teithio drwy amser i Gaerdydd yn y flwyddyn 2033. Mae'n aros gyda theulu Doctor Llywarch sydd yn mynd ag ef ar daith o gwmpas Cymru. Yno y mae'n canfod fod Cymru wedi ennill hunan-lywodraeth, yn llewyrchus yn economaidd, yn heddychlon yn gymdeithasol ac y mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu gyda phawb yn gwbl ddwyieithog. Syrthia Ifan mewn cariad â merch Doctor Llywarch, Mair, ac wedi iddo ddychwelyd i Gymru'r 1950au mae ei hiraeth amdani'n peri iddo fynnu mynd yn ôl i 2033. Er i'r gwyddonydd, Doctor Heinkel, sydd yn gwneud yr arbrawf ei gynghori yn erbyn hyn, y mae'n cytuno wedi i Ifan erfyn arno.
Fodd bynnag, mae Ifan yn dychwelyd i Gymru ddystopaidd, er ei fod yn ymddangos eto yng Nghaerdydd yn 2033. Yn y fersiwn hwn o'r dyfodol, Western England yw'r enw ar Gymru, mae'r iaith Gymraeg wedi marw a phob arlliw o hunaniaeth Gymreig wedi diflannu. Mae'r gymdeithas hefyd yn ansefydlog a llawn helynt. Dim ond am ddeuddydd y mae Ifan yn aros yma - y mae hynny yn fwy na digon iddo. Yn y rhan hon o'r nofel y ceir Ifan yn dod wyneb yn wyneb â Hen Wraig y Bala a phrofi marwolaeth y Gymraeg gyda'i lygaid ei hun.
Wedi i Ifan ddychwelyd am yr eildro i'r presennol mae Doctor Heinkel y gwyddonydd yn egluro iddo fod y ddwy Gymru y bu Ifan yn ymweld â hwynt yn bosibiliadau ar gyfer y dyfodol a bod tynged y wlad yn nwylo Cymry'r presennol. Yn sgil hyn y mae Ifan yn troi yn genedlaetholwr Cymreig (yr oedd gynt yn gwrthwynebu cenedlaetholdeb Cymreig) gan ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau mai'r Gymru y bu ynddi hi yn gyntaf fydd yn dod yn wir.
Arwyddocâd y Nofel
[golygu | golygu cod]Mae'r nofel yn arwyddocaol yng nghyd-destun hanes llenyddiaeth Gymraeg gan mai hi oedd un o'r nofelau ffuglen wyddonol cyntaf i oedolion i gael ei hysgrifennu yn yr iaith. (Cyhoeddwyd stori wyddonias estynedig gan T. Gwynn Jones yn 1905 mewn rhifynnau o Papur Pawb ond ni chyhoeddwyd hwn fel llyfr unigol nes 2024.[1]) Cyfeiria Islwyn Ffowc Elis at yr awduron ffuglen wyddonol enwog H.G. Wells a Jules Verne yn ei ysgrifau 'Mynd i'r Lleuad', yn ogystal â nofel ffantasi E. Tegla Davies i blant, Rhys Llwyd y Lleuad (1925) a gellir dadlau iddynt oll ysbrydoli'i waith.
Adeg ei chyhoeddi, dim ond un adolygiad ohoni a ganiatawyd, sef adolygiad gan E. Tegla Davies ar gyfer cylchgrawn Plaid Cymru, Y Ddraig Goch,[2] ac ystyria Islwyn Ffowc Elis ei hun y nofel yn ddim ond propaganda gwleidyddol.[3]
Fodd bynnag, yn y degawdau wedi cyhoeddi'r nofel bu cryn drafod ar agweddau amrywiol ar y nofel gan sylwebwyr mewn sawl maes gan gynnwys gan Lowri Haf Cooke[4] ac ar BBC Radio Cymru[5] ac mae'r nofel wedi bod yn destun sawl trafodaeth academaidd, gan gynnwys gwaith Johan Schimanski,[6][7][8] Kate Crockett,[9] Gareth Llyr Evans,[10] Chris Pak[11] a Miriam Elin Jones.[12]
Cyhoeddwyd fersiwn o Wythnos yng Nghymru Fydd i ddysgwyr gan Wasg Gomer yn 1993.[13]
Ail-argraffwyd y llyfr yn 2007 ar bumdeg mlwyddiant y cyhoeddiad gwreiddiol.[14]
Yn 2017 cyfansoddodd Gareth Glyn opera yn seiliedig ar y nofel gyda'r libreto gan Mererid Hopwood.
Yn ogystal ag Wythnos yng Nghymru Fydd, cyhoeddwyd un nofel ffuglen wyddonol (neu wyddonias) arall gan Islwyn Ffowc Elis, sef Y Blaned Dirion, yn 1968. Cyhoeddwyd hefyd stori fer ffuglen wyddonol yn ail rifyn cyfnodolyn Y Gwyddonydd, 'Y Golau Estron' yn 1964.[15]
Dylanwad Tramor ar Wythnos yng Nghymru Fydd
[golygu | golygu cod]Ysbrydolwyd y stori gan lwyddiant llyfr Altneuland gan Theodor Herzl oedd yn cyflwyno agenda Seioniaeth ar gyfer sefydlu gwladfa Iddewig ym Mhalesteina.[angen ffynhonnell] Cyhoeddwyd y llyfr yn 1902 a bu'n ddylanwadol iawn ar Iddewon y cyfnod ac wedyn. Enwyd y ddinas Tel Aviv ar ôl teitl cyfieithiad Hebraeg o'r llyfr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Price, Stephen (2024-04-14). "Publisher unearths early Welsh science fiction novel". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-04-14.
- ↑ Davies, E. Tegla (Hydref 1957). "Adolygiadau: Wythnos yng Nghymru Fydd". Y Ddraig Goch: 5.
- ↑ Chapman, T. Robin (2003). Rhywfaint o Anfarwoldeb: Bywgraffiad Islwyn Ffowc Elis. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 122. ISBN 1843232243.
- ↑ https://lowrihafcooke.wordpress.com/2017/11/27/adolygiad-theatr-wythnos-yng-nghymru-fydd-opra-cymru/
- ↑ https://www.bbc.co.uk/programmes/b09cm1bv
- ↑ Schimanski, Johan (1994). "Wythnos yng Nghymru Fydd – unwaith eto’, Taliesin, 88 (1994), 24-30". Taliesin: 24-30.
- ↑ Schimanski, Johan (1997). "Hen Wraig y Bala". Barn 414/415: 72-3.
- ↑ Schimanski, Johan (2000). "Singing 'Che Gelida Manina' In Welsh: Internal and External Cultural. Translation In the Future Wales of Islwyn Ffowc Elis". Interlitteraria 5: 365-74.
- ↑ Crockett, Kate (1996). "Cenedl! Cenedl!: Kate Crockett ar ddystopia". Tu Chwith 6: 70-77.
- ↑ Evans, Gareth Llyr (2017). "Ymlaen Mae Canaan: Dyfodoldeb yn Hanesyddiaeth y Theatr Gymraeg". Perfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 1-30. ISBN 9781786830340.
- ↑ Pak, Chris (2023). "Chris Pak, ‘Visions of the Future, Farming and Land Use in Welsh Science Fiction’, Revista Helice, 33 (2023), 48-65.". Revista Helice 33: 48-65. https://www.revistahelice.com/en/book/helice-33-2/.
- ↑ Jones, Miriam Elin (2025). "'Dim Newydd Dan Haul'?: Y tensiynau rhwng traddodiad a newydd-deb yn ffuglen wyddonol Islwyn Ffowc Elis.". Gweddnewidiadau: Ysgrifau Beirniadol XXXV. Talybont: Y Lolfa. tt. 67–99. ISBN 9781800996281.
- ↑ Elis, Islwyn Ffowc; Davies, Basil (1993). Wythnos yng Nghymru Fydd: ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 1859020607.
- ↑ https://www.gomer.co.uk/catalog/product/view/id/29688/s/wythnos-yng-nghymru-fydd/category/148/[dolen farw]
- ↑ Elis, Islwyn Ffowc (1964). "Y Golau Estron". Y Gwyddonydd 2.
