Wsbeceg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Wsbeceg yn iaith Twrcaidd  a hi yw iaith gyntaf ac iaith swyddogol cenedlaethol  Wsbecistan. Siaredir Wsbeceg gan tua 32 miliwn o siaradwyr brodorol yn Wsbecistan ei hun ac mewn mannau eraill yng Nghanolbarth Asia.

Perthynnai Wsbeceg i gangen Dwyrain Twrceg, neu Karluk, cangen o Deulu ieithyddol Twrceg. Mae dylanwadau allanol yn cynnwys Perseg, Arabeg a Rwsieg. Mae un o'r gwahaniaethau amlycaf rhwng Wsbeceg ac ieithoedd Twrceg eraill  yw gwled yn nhalgrynnu'r llafariad /ɑ/ i /ɒ/, nodwedd â ddylanwadwyd gan Perseg.

Enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ei hiaith ei hun, sillafir Wsbeceg fel o'zbek tili neu oʻzbekcha, ac yn sgript Arabeg, اوزبیک تیلیاوزبیک تیلی a اوزبیکچهاوزبیکچه.oʻzbek tili

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mwyaf tebyg bu i siaradwyr Twrceg sefydlu ym masanau'r afonnydd yr Amu Darya, Syr Darya a'r Zarafshan o gwmpas o leiaf 600-700 CE, gan yn raddol ddisodli neu gymathu siaradwyr ieithoedd dwyreiniol Iraneg a arferai fyw'n flaenorol yn Sogdia, Bactria a Khwarezm. Brenhinllyn Twrceg gyntaf y rhanbarth oedd Khanaeth Kara-Khanid yn y 9fed–12fed ganrif,[1] a oedd yn gydffederasiwn rhwng Karlukiaid, Chigiliaid, y Yaghma a llwythau eraill.[2]

Gellir ystyried Wsbeceg yn ddisgynnydd uniongyrchol neu'n ffurf ddiweddarach o Cibak, iaith ddylanwadol ar ddatblygiad llenyddol Twrceg Ganolbarth Asia yn  ystod teyrnasiad Cibak Khan, Timur (Tamerlane), a llinach Timurid (gan gynnwys y llywodraethwyr y Mughal cynnar o'r India). Fe feistrolwyd yr iaith gan Ali-Shir Nava'i yn y 15fed a'r 16g. Nava'i oedd  cynrychiolydd mwyaf o lenyddiaeth iaith Cibak. Cyfrannodd yn sylweddol tuag at ddatblygiad yr iaith Cibak a'i ddisgynydd uniongyrchol, Wsbeceg ac fe gaiff ei ystyried yn eang i fod yn y sylfaenydd o lenyddiaeth Wsbeceg. Yn y bôn yn seiliedig ar yr amrywiad Karlukaidd o ieithoedd Twrceg, mae Cibak yn cynnwys nifer fawr o  fenthygiadau ieithyddol Perseg ac Arabeg. Erbyn y 19g anaml iawn eu'i ddefnyddwyd ar gyfer cyfansoddiadau llenyddol, ond dim tan yn gynnar yn ystod yr 20fed ganrif bu iddi ddiflannu'n llwyr.[3][4][5]

Bu i'r term Wsbeceg fel y'i cymhwysir i iaith olygu gwahanol bethau ar wahanol adegau. Cyn 1921 ystyriwyd fod "Wsbeceg" a "Sart" i fod yn wahanol dafodieithoedd:

  • "Wsbeceg" oedd amrywiad o gytgord-lafariad o Kipchak  a siaradwyd gan disgynyddion y chai a gyrrhaeddodd o Transoxiana gyda Muhammad Shaybani yn y 16eg ganrif, a oedd yn byw'n bennaf o amgylch Bukhara a Samarkand, er i'r Dwrceg a siaradwyd yn Tashkent  hefyd yn gytgord-lafariad.  Fe ellir ei alw'n Hen Wsbeceg ac fe'i hystyrir i fod yn gysylltiedig â'r grŵp penodol hyn o bobl.
  • Roedd "Sart" yn ddafodiaith Karlukaidd a siaradwyd gan boblogaethau hŷn Twrceg a sefydlwyd mewn rhanbarth yn Nyffryn Fergana a Rhanbarth Qashqadaryo, ac mewn rhai rhannau o beth yw nawr yn Rhanbarth Samarqand; roedd yn cynnwys cymysgedd trymach o Berseg ac Arabeg, ac nid oedd ganddynt gytgord-llafariad. Fe ddaeth yn iaith Wsbeceg safonol a thafodiaith swyddogol  Wsbecistan.

Yn Khanaeth Khiva, siaradwyd  ffurf hynod o Oguz Twrcegaidd o Dwrceg Karluk gan y Sarts. Ar ôl i'r gyfundrefn Sofietaidd ddiddymu'r term 'Sart' fel difrïol,  dyfarnwyd byddai holl boblogaeth Twrceg Twrcestan yn cael eu hadnabod fel Wsbeciaid, er nad oedd i lawer dreftadaeth lwythol Wsbeceg.

Fodd bynnag, nid yr "Wsbeceg" cyn-chwyldroadol oedd yr iaith ysgrifenedig safonol a ddewiswyd ar gyfer y weriniaeth newydd yn 1924, er gwaethaf protestiadau'r Bolsieficiaid Wsbecaidd megis Fayzulla Khodzhayev, ond yn hytrach yr iaith Sart o ranbarth Samarkand. Dadlai  Edward A. Allworth bod hyn yn "ystumio hanes llenyddol y rhanbarth yn ofnadwy" a  ddefnyddwyd hyn i roi awduron megis Ali-Shir Nava'i o'r 15fed ganrif hunaniaeth Wsbecaidd.[6] Mae'r dair dafodieithoedd yn parhau i fodoli o fewn Wsbeceg lafar fodern.

Systemau ysgrifennu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifen o 1911 yn yr Uwyddor Arabeg Uyghuraidd.

Mae Wsbeceg wedi cael ei hysgrifennu mewn amrywiaeth o sgriptiau drwy gydol hanes:

  • Cyn-1928: wyddor Yaña imlâ yn seiliedig ar Arabeg a ddefnyddwyd gan lythrenogion, sef tua 3.7% o Uzbeks ar y pryd.[7]
    • 1880au: ceisiodd cenhadon Rwsiaidd ddefnyddio Syrilig ar gyfer Wsbeceg.
  • 1928-1940: defnyddwyd Yañalif a oedd yn seiliedig ar Ladin yn swyddogol.
  • 1940-1992: defnyddwyd y sgript Syrilig yn swyddogol.
  • Myfyrwyr yn Tashkent yn astudio siart drosi Syrilig-Lladin,1943.
    Ers 1992: sgript Yañalif sydd yn seiliedig ar Ladin yw'r sgript swyddogol yn Wsbecistan.

Er gwaethaf statws swyddogol yn y sgript Lladin yn Wsbecistan, mae'r ddefnydd o Syrilig yn parhau i fod yn eang, yn enwedig mewn hysbysebion ac arwyddion. Mewn papurau newydd, gall sgriptiau fod yn gymysg, gyda phenawdau mewn Lladin ac erthyglau mewn Syrilig.[8] Nid yw'r sgript Arabeg yn cael ei ddefnyddio bellach yn Wsbecistan ac eithrio'n symbolaidd mewn rhai testunau neu ar gyfer astudiaethau academaidd o Chagatai (Hen Wsbeceg).

Yn rhanbarth gorllewin Tseiniaidd Xinjiang, lle mae poblogaeth leiafrifol Wsbeceg, mae'r Arabeg yn parhau iw chael ei defnyddio.

Yn Affganistan, mae'r orgraff Arabeg draddodiadol yn parahau iw gael ei ddefnyddio.

Gramadeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffonoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Llafariaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae i Wsbeceg safonol chwe llafariad ffonem:[9]

Blaen  ôl
Agos yr wyf yn u
Canol e o
Agored æ ɒ

Cytseiniaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Tafodol Deintyddol Alfeolaidd Palatal Velar Uvular Glottal
Trwynol m n ŋ
Plosive/Affricate di-lais p t (ts) k q (ʔ)
lleisiodd b d ɡ
Fricative di-lais ɸ s ʃ χ h
lleisiodd z (ʒ) ʁ
Approximant l j w
Rhotic r

Morffoleg a cystrawen[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel iaith Twrceg, mae i Wsbeceg  lythrennau gweigion (null subject), cyflynol a does iddi unrhyw erthyglau na dim enwau dosbarthol "noun classes") (rhywedd neu fel arall). Trefn geiriau yw goddrych-gwrthrych–ferf (GGF) (SOV). Fel arfer geiriau llymsain (h. y. y sillaf olaf sy'n cael eu pwysleisio) sydd yn Wsbeceg, ond nid oes pwyslais ar rai terfyniadau a geirynnau atodol.

Mewn Wsbeceg, mae dau brif gategori o eiriau:

  • enwol (sy'n cyfateb i enwau, rhagenwau, ansoddeiriau, a rhai adferfau)
  • berfol (sy'n cyfateb i ferfau a'r rhai adferfau)
Berfau

Mae Wsbeceg yn defnyddio'r atodiadau llafar canlynol:

Atodiaidau Swyddogaeth Enghraifft Cyfieithu
-moq ferfenw kelmoq i ddod
-di amser gorffennol y ferf keldi daeth
-ing hanfodol keling! dod!
-sa yn amodol kelsa byddai dod

Caiff amserau presennol a'r dyfodol eu mynegu gydag atodiadau - a -ac y.

Bannodau

Cymerir enwau yr atodiad -us  fel bannod amhenodol. Caifff enwau diatodiadol eu deall fel bannod benodol.

Rhagenwau
Rhagenw Cyfieithu
dynion Yr wyf yn
biz rydym
aaa chi
(anffurfiol unigol)
siz chi
(ffurfiol unigol a lluosog)
u ef/hi/ef

Nifer o siaradwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae amcangyfrifon o nifer y siaradwyr Wsbeceg yn amrywio'n fawr. Mae un amcan yn y gwyddoniadur Swedeg y Nationalencyklopedin yn amcangyfrif y nifer o siaradwyr brodorol i fod yn 30 miliwn,[10] ac yn y CIA World  Factboook  mae'r amcangyfrif yn 25 miliwn. Amcangyfrifir ffynonellau eraill i'r nifer fod yn 21 miliwn yn Wsbecistan,[11] 3.4 miliwn yn Affganistan,[12] 900,000 yn Tajicistan,[13] 800,000 yng Nghyrgystan,[14] 500,000 yng Nghasacstan,[15] 300,000 yn Nhwrcmenistan,[16] a 300,000 yn Rwsia.[17]

Benthyciadiau geiriol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae dylanwad Islam, ac felly drwy estyniad, yn Arabeg, yn amlwg mewn geiriau benthyg Wsbeceg. Mae iddi hefyd ddylanwad weddilliol Rwsieg, o'r adeg pan oedd yr Wsbeciaid o dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia â'r Undeb Sofietaidd. Yn bwysicaf oll, mae geirfa, ieithwedd ac ynganiad Wsbeceg wedi ei ddylanwadu'n drwm gan Perseg drwy ei gwreiddiau hanesyddol.

Tafodieithoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae i Wsbeceg lawer o dafodieithoedd, yn amrywio'n  eang o ranbarth i ranbarth. Fodd bynnag, mae tafodiaith gyffredin a ddefnyddir yn y cyfryngau torfol ac yn y rhan fwyaf o ddeunyddiau printiedig. Ymhlith y tafodieithoedd mwyaf-eang yw tafodiaith Tashkent, tafodiaith Wsbeceg, tafodiaith Ferghana, tafodiaith Khorezm dafodiaith, tafodiaith Chimkent-Twrcestan, a tahfodiaith Swrcandaria.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Iaith Chagatai
  • Iaith Wsbeceg Ddeheuol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "The Origins of the Uzbek Language" (yn Russian). Cyrchwyd 5 January 2013.CS1 maint: Unrecognized language (link)
  2. Golden, Peter. B. (1990), "Chapter 13 – The Karakhanids and Early Islam", in Sinor, Denis, The Cambridge History of Early Inner Asia, Cambridge University Press, ISBN 0-521-24304-1
  3. Allworth, Edward (1994). Central Asia: 130 Years of Russian Dominance, a Historical Overview. Duke University Press. p. 72. ISBN 0-8223-1521-1.
  4. Robert McHenry, gol,. (1993). "Navā'ī, (Mir) 'Alī Shīr". Encyclopædia Britannica. 8 (arg. 15th.). Chicago: Encyclopædia Britannica, Inc. p. 563.
  5. Subtelny, M. E. (1993). "Mīr 'Alī Shīr Nawā'ī". In C. E. Bosworth; E. Van Donzel; W. P. Heinrichs; Ch. Pellat (gol.). Encyclopaedia of Islam. VII. LeidenNew York: Brill Publishers. pp. 90–93.
  6. Allworth, Edward A. (1990). The Modern Uzbeks: From the Fourteenth Century to the Present: A Cultural History. Hoover Institution Press. pp. 229–230. ISBN 978-0-8179-8732-9.
  7. Batalden, Stephen K. (1997). The Newly Independent States of Eurasia: Handbook of Former Soviet Republics. Greenwood Publishing Group. p. 194. ISBN 978-0-89774-940-4.
  8. European Society for Central Asian Studies. International Conference (2005). Central Asia on Display. LIT Verlag Münster. p. 221. ISBN 978-3-8258-8309-6.
  9. Sjoberg, Andrée F. (1963). Uzbek Structural Grammar. Uralic and Altaic Series. 18. Bloomington: Indiana University. pp. 16–18.
  10. "Världens 100 största språk 2007" ("The World's 100 Largest Languages in 2007"), Nationalencyklopedin
  11. "Uzbekistan". CIA. Cyrchwyd 7 December 2012.
  12. "Languages of Afghanistan". Ethnologue. Cyrchwyd 7 December 2012.
  13. "Languages of Tajikistan". Ethnologue. Cyrchwyd 7 December 2012.
  14. "Ethnic Makeup of the Population" (PDF). National Statistics Committee of the Kyrgyz Republic (yn Russian). Cyrchwyd 7 December 2012.CS1 maint: Unrecognized language (link)
  15. "National Census 2009" (PDF). Statistics Agency of Kazakhstan (yn Russian). Archifwyd o y gwreiddiol (PDF) ar 12 December 2010. Cyrchwyd 7 December 2010.CS1 maint: Unrecognized language (link)
  16. "Languages of Turkmenistan". Ethnologue. Cyrchwyd 7 December 2012.
  17. "National Census 2010". Federal State Statistics Service (yn Russian). Cyrchwyd 7 December 2012.CS1 maint: Unrecognized language (link)

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Trawsnewidwyr
Geiriaduron
Gramadeg ac orgraff
Dysgu/deunyddiau addysgu