Wsbeciaid
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
Grŵp ethnig ![]() |
Math |
Pobl Twrcaidd, Asiaid Canol ![]() |
Mamiaith |
Wsbeceg ![]() |
Poblogaeth |
30,000,000&Nbsp;![]() |
Crefydd |
Islam, sunni ![]() |
Rhan o |
Pobl Twrcaidd ![]() |
Gwladwriaeth ble'i siaredir |
Wsbecistan, Affganistan, Tajicistan, Cirgistan, Casachstan, Rwsia, Tyrcmenistan, Twrci, Pacistan, Unol Daleithiau America, Yr Wcráin, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Sweden, Belarws, Mongolia, Latfia ![]() |
![]() |
Pobl Dyrcig yng Nghanolbarth Asia yw'r Wsbeciaid. Trigasant yn bennaf yn Wsbecistan, ac yno maent yn cyfrif am ryw 80% o'r boblogaeth. Maent hefyd yn byw mewn niferoedd uchel yn Affganistan, Tajicistan, Cirgistan, Casachstan, Tyrcmenistan, a thalaith Xinjiang yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina. Maent yn siarad yr iaith Wsbeceg, a chanddi ddwy brif dafodiaith.
Daw enw'r Wsbeciaid mae'n debyg o Öz Beg (Uzbek), khan y Mongolwyr yn hanner cyntaf y 14g. Goresgynwyd yr ardal gan lwythau Mongolaidd a Thyrcig o'r 11g hyd y 15g, a chymysgant â'r bobloedd Iranaidd hynafol. Gwasgarant dros holl Dyrcestan, gan amaethu a masnachu.
Mwslimiaid Sunni ydy'r mwyafrif helaeth o Wsbeciaid, ac yn canlyn y ddefod Hanafi. Hwy yw'r un garfan o'r holl bobloedd Tyrcig dan reolaeth gynt yr Undeb Sofietaidd sydd wedi dioddef lleiaf o Rwsieiddio.[1]
Cyfeiriadu[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Uzbek (people). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2017.