Gair benthyg
Mae gair benthyg (ll. bethyceiriau) yn air a fabwysiadwyd o un iaith (iaith y rhoddwr) ac a ymgorfforir mewn iaith arall heb ei gyfieithu ee daw'r gair 'ffenestr' o'r Lladin 'ffenestra', daw'r gair benthyg 'car' i'r Saesneg o'r Frythoneg 'car'. Mae hyn yn wahanol i gytrasau (cognates), sy'n eiriau mewn dwy iaith neu fwy sy'n debyg oherwydd eu bod yn rhannu tarddiad etymolegol.
Mae'r gair Cymraeg 'caffi' a'r gair Saesneg 'café' ill dau'n fenthyceiriau o'r Ffrangeg 'café'. Pan ddyfeisir gwrthrych newydd, mae'n rhaid cael gair newydd amdano, a dau o'r dewisiadau yw: naill ai benthyg gair o iaith arall, neu greu gair newydd sbon. Pan ddaeth y cyfrifiadur yn boblogaidd yn y 1950au - 1970au, roedd yn rhaid wrth air i'w ddisgrifio. Benthyciodd rhai ieithoedd y gair Saesneg computer:
- Almaeneg - computer
- Daneg - computer
- Eidaleg - computer
- Ffijïeg - Kompiuta
- Cernyweg - comptyor
tra bathodd ieithoedd eraill (gan gynnwys y Gymraeg) eu geiriau eu hunain:
- Fietnameg - máy tính
- Latfieg - dators
- Gwyddeleg - ríomhaire
- Tsieceg - počítač