Chwyldro Rwsia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfres o wrthryfeloedd yn Rwsia a gyrhaeddodd ei huchafbwynt yn 1917 oedd Chwyldro Rwsia. Yn ystod y chwyldro hon sefydlwyd llywodraeth dros dro yn lle rheolaeth y Tsar a arweiniodd at sefydlu yr Undeb Sofietaidd. Parharodd y wladwriaeth honno hyd at ei chwymp ym 1991.

Roedd dau gyfnod i Chwyldro Rwsia. Y cyfnod cyntaf oedd Chwyldro Chwefror yn 1917, pan sefydlwyd llywodraeth ddemocrataidd yn lle teyrnas Nicholas II o Rwsia. Yn ystod yr ail gyfnod, Chwyldro Hydref, roedd y sofietau a gafodd eu hysbrydoli gan y Bolsieficiaid am sefydlu llywodraeth dros dro.

Un o'r rhesymau pam y cychwynodd Chwyldro Chwefror oedd y ffaith nad oedd digon o fwyd gan y bobl ac anfodlonrwydd ynghylch rôl y wlad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod mis Chwefror roedd trodd protest yn frwydr gyda phobl y trefi yn brwydro yn erbyn yr heddlu a'r milwyr. Ymunodd mwyafrif milwyr Petrograd âyn ymuno â'r chwildro 'r chwyldro ac o ganlyniad gorfodwyd y Tsar Nicholas II i ymddiswyddo o'i frenhiniaeth.

Rhwng mis Chwefror a mis Hydref 1917 roedd anarchyddion a Bolsieficau yn ceisio ysbarduno'r chwyldro. Ym mis Gorffennaf roedd adran milwrol y Bolsiefic, adran mawr gweithwyr Bolsiefic ac anarchyddion Petrograd yn ceisio creu gwrthryfel sifil ym Mhetrograd, ond doedd hynny ddim yn llwyddiannus.

Arweinydd Chwyldro Hydref oedd Lenin a derbynnodd ideoleg Karl Marx. Fel hyn mewn gwirionedd y cychwynodd comiwnyddiaeth. Yn wahanol i Chwyldro Chwefror cynllunwyd Chwyldro Hydref yn fanwl. Ar 7 Tachwedd, 1917 daeth cwymp y llywodraeth dros dro o dan Aleksandr Kerensky gan chwyldrowyr Lenin. Trowyd llywodraeth democrataidd rhyddfrydol i un gomiwnyddiaeth a daeth y chwyldro i ben.

Ar ôl Chwyldro Rwsia dechreuodd Rhyfel Cartref Rwsia.

Sylwer bod Rwsia yn defnyddio Calendr Julius cyn 1918 a chalendr Gregori ers hynny

Gweler hefyd[golygu]