Rhyfel Cartref Rwsia
| Enghraifft o: | rhyfel cartref, gwrthdaro arfog |
|---|---|
| Rhan o | Chwyldroadau 1917-1923 |
| Dechreuwyd | 7 Tachwedd 1917 |
| Daeth i ben | 25 Hydref 1922 |
| Lleoliad | Gwladwriaeth Rwsia, Mongolia, Twfa, Qajar Iran, Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd, Russian Democratic Federative Republic |
| Yn cynnwys | Left-wing uprisings against the Bolsheviks, pro-independence movements in the Russian Civil War, Yakut Revolt |
| Gwladwriaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd, Gweriniaeth Pobl Wcráin |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/06k75 |
| Quora | Russian-civil-war |

Rhyfel cartref rhwng sawl carfan yng nghyn Rwsia Imperialaidd oedd Rhyfel Cartref Rwsia (1917-1922).
Dechreuodd yn dilyn Chwyldro Hydref pan gipiodd y Bolsiefigiaid comiwnyddol bŵer yn St Petersburg ar 7 Tachwedd 1917 (Calendr Gregori) gan ddod â'r Llywodraeth Dros Dro i ben. Rhyfel rhwng y Fyddin Goch - y Bolsiefigiaid a'i gynghreiriaid, a'r Fyddin Gwyn - cymysgedd o gefnogwyr y llywodraeth dros dro, y cyn Tsar ac adweithwyr, oedd yn bennaf. Roedd nifer o luoedd gwahanol genhedloedd a oedd yn ymladd dros annibyniaeth, carfanau gwerinol (a enwir y Byddinoedd Gwyrddion gan rai) a Byddin Ddu anarchwyr Wcráin yn brwydro yn ogystal. Gan fod Rwsia hyd at 1918 (Cytundeb Brest-Litovsk) yn rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd lluoedd y Pwerau Canolig (gan gynnwys yr Almaen, Awstria-Hwngari ac Ymerodraeth yr Otomaniaid) hefyd yn rhan o'r rhyfel ar y dechrau, ac yn hwyrach daeth amhariad y Gynghreiriaid â byddinoedd y Deyrnas Unedig, Ffrainc, yr Unol Daleithiau a Siapan i'r ffrae.
Y canlyniad oedd buddugoliaeth gan y Blaid Bolsiefic a dechreuad yr Undeb Sofietaidd yn ogystal â genedigaeth sawl wlad newydd annibynnol yng Ngorllewin Ewrop.